Taith Taf: Caerdydd - Aberhonddu
Mae’r daith anhygoel hon yn dechrau ym mhrifddinas ffyniannus Cymru gyda phrif atyniadau megis Castell Caerdydd, Stadiwm y Mileniwm a Bae Caerdydd.
Mewn taith fer ar eich beic cewch eich cludo o Gaerdydd cosmopolitanaidd i nefoedd cefn gwlad. Yn gyntaf byddwch yn beicio wyth milltir hamddenol coridor Afon Taf i dir o goredau byrlymus llawn bywyd gwyllt, cefnlenni mynyddig trawiadol a chastell tylwyth teg (Castell Coch).
Ar y llwybr mae digonedd o gyfle i aros am bicnic cyn cyrraedd tref treftadaeth ddiwydiannol Pontypridd, tref enedigol y canwr byd enwog Tom Jones, lle ceir amgueddfa, yr hen bont bridd a Pharc Coffa Ynysangharad.
Oddi yma mae’r llwybr yn canghennu i lwybrau eraill megis y Lôn Geltaidd - gyda digon o atyniadau yn cynnwys Parc Treftadaeth y Rhondda yn Nhrehafod lle byddwch yn camu yn ôl mewn amser ac yn cael profiad o fywyd dan ddaear ym Mhwll Lewis Merthyr gyda chymorth tywysydd a arferai fod yn löwr.
Yn ôl ar y llwybr, ewch i gyfeiriad Merthyr Tudful, tref a godwyd ar haearn a glo, a chartref ysblennydd Castell Cyfarthfa. Arhoswch yma i ymweld ag amgueddfa ac oriel luniau’r Castell cyn mynd ymlaen i Aberhonddu drwy dirweddau mynyddig godidog, heibio i raeadrau ewynnog a chronfeydd dŵr crisial cyn cyrraedd tref Aberhonddu - gyda’i Chadeirlan a digonedd o dafarndai a siopau llawn cymeriad. Dringwch yn raddol i fyny Bwlch Torpantau a darganfod hen Reilffordd Merthyr cyn cyrraedd cefn gwlad hudolus yng Nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Atyniadau naturiol:
- Pwll Glas, Pontsarn
- Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
- Cronfa Ddŵr Talybont
- Cronfa Ddŵr Pontsticill
Atyniadau i ymwelwyr:
- Castell Caerdydd
- Stadiwm y Mileniwm/Caerdydd
- Techniquest/Caerdydd
- Canolfan y Mileniwm/Caerdydd
- Castell Coch
- Parc Treftadaeth y Rhondda
- Parc Coffa Ynysangharad
- Castell Cyfarthfa
- Rheilffordd Fynyddig Aberhonddu
- Cadeirlan Aberhonddu
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
De Ddwyrain Cymru
- Pellter:
55 milltir
- Amser sydd ei angen:
1 diwrnod hir
- Dosbarthiad:
- Traffig:
Rhai priffyrdd ac isffyrdd
- Wyneb:
Cymysg
- Llwybr RhBC:
Llwybr Cenedlaethol 8
- Cychwyn:
Glan y Dwr Caerdydd
- Gorffen:
Aberhonddu
- Mynediad:
Gorsafoedd trên ym Merthyr Tudful a Chaerdydd a sawl gorsaf rhyngddynt.
- Mapiau a llysrynnau:
-
Map Lôn Las Cymru De NN8A £6.99
Arweinlyfr Lôn Las Cymru – £6.99
Taflen Taith Taf – Pdf am ddim
- Cysylltiadau Gyda:
Lôn Las Cymru i’r gogledd o Aberhonddu i Ganolbarth Cymru
Lôn Geltaidd ym Mhontypridd
- Tywydd:
-
Iau
uchaf: 15°C isaf: 4°C
-
Gwener
uchaf: 16°C isaf: 7°C
-
Sadwrn
uchaf: 18°C isaf: 5°C
-
Sul
uchaf: 16°C isaf: 3°C
Dewis llwybr arall

