Routes2Ride
Llwybr Tri Pharc
Gan ddechrau o Barc Gwledig Sirhywi ger Crosskeys mae’r daith yn parhau am 6 milltir, gan groesi traphont 16 bwa wych Hengoed.
Dosbarthiad: Hawdd Pellter: 13 milltir
Rhondda Fach / Seidins y Barri - Pontypridd i'r Porth
Mae’r llwybr di-draffig hyfryd hwn o Bontypridd yn teithio drwy Barc Gwledig Seidins y Barri, heibio i Barc Treftadaeth y Rhondda ac ymlaen i’r Porth.
Dosbarthiad: Hawdd Pellter: 4 milltir
Llwybr Bae Caerdydd
Mae’r llwybr cylchol di-draffig yn rhedeg o amgylch Bae Caerdydd ac i dref glan môr Penarth dros Bont y Werin. Mae’n daith berffaith ar gyfer teuluoedd a rhai sy’n ail-gydio mewn beicio a rhydd gyfle gwych i archwilio caffis, bariau a bwytai glan dŵr bywiog Bae Caerdydd; safleoedd treftadaeth ac amrywiaeth wych o weithgareddau sydd ar gael ym Mhentref Chwaraeon Cenedlaethol newydd Bae Caerdydd.
Dosbarthiad: Hawdd Pellter: 8 milltir
Llwybr Cymunedol Pentre’r Eglwys Llantrisant i Trefforest
Llwybr cymudo hanfodol ar gyfer trigolion, plant ysgol a myfyrwyr prifysgol yn nhrefi Trefforest, Ton-teg, Pentre'r Eglwys a Llantrisant yn y cymoedd yw hwn sy'n gartref i rywogaeth prin iawn o löyn byw, 2 waith celf cyhoeddus ac ambell i wyneb cyfarwydd annisgwyl!
Dosbarthiad: Hawdd Pellter: 6 milltir
Llwybr Cynon
Mae'r llwybr hwn yn llawn i'r ymylon o ddiddordeb hanesyddol a hwyl i'r teulu a hefyd yn baradwys i unrhyw un sy'n hoffi natur.
Dosbarthiad: Pellter: 9 milltir
Dyffryn Aman
Mae'r llwybr hwn, sy'n fyr ond yn hardd ac yn cysylltu Rhydaman i Ddyffryn Aman Uchaf yn Sir Gaerfyrddin, yn eich arwain i encil hamddenol ar lan yr afon heb fod yn rhy ddiarffordd.
Dosbarthiad: Hawdd Pellter: 2.5 milltir
Cwm Tawe: Clydach i Arsyllfa Abertawe
Gan ddilyn cymysgedd o lwybrau glan afon, adrannau newydd a adeialdwyd i'r diben a hen linellau rheilffordd, mae'r llwybr hwn yn darparu llain werdd drwy galon ddiwydiannol Cwm Tawe. O'r daith mae'n bosibl gweld rhai o nodweddion gorffennol diwydiannol y cwm tra ar yr un pryd mae'r daith yn dangos y presennol sydd wedi ei adfywio.
Dosbarthiad: Pellter: 8.5 milltir
Cwm Tawe: Clydach i Ystalyfera
Taith ysgafn iawn yw hon ar hyd llwybr tynnu camlas a hen reilffordd, yn dilyn llawr y dyffryn rhwng dwy o brif drefi Cwm Tawe. Gan ddechrau o Barc Coed Gwilym mae'r llwybr yn cydio yn y llwybr tynnu camlas ac yn mynd a chi i ganol Pontardawe. Gan symud i ffwrdd o'r gamlas a dilyn glan yr afon fe ddewch i'r hen lein rheilffordd. Bydd hyn yn mynd â chi drwy goedwigoedd sy’n rhedeg gyda’r afon cyn dod allan ar gyrion Ystalyfera.
Dosbarthiad: Hawdd Pellter: 6.5 milltir
Merthyr Tudful i Aberhonddu
Mae'r daith hon ar gyfer y rheiny sy'n hoffi mynd i galon parc cenedlaethol, ond mae'n cychwyn yn nhref lofaol enwocaf De Cymru, ac yn diweddu yn nhref brydferth wledig Aberhonddu.
Dosbarthiad: Pellter: 25 milltir
Llanfair-ym-Muallt i Glas-ar-Wy drwy Orsaf Erwood
Gan redeg i lawr Dyffryn Gwy, mae'r daith yn dilyn lonydd cefn, gydag adrannau di-draffig byr yn Llanfair-ym-Muallt. Mae hen orsaf reilffordd Erwood, sydd erbyn hyn yn gaffi ac amgueddfa, tua hanner ffordd ar hyd yr adran, ac mae'n fan gorffwys delfrydol i gael ychydig o luniaeth, ac yn fan troi da ar gyfer y rheiny sydd eisiau taith fyrrach.
Dosbarthiad: Pellter: 15 milltir

