Mae Sustrans yn eich croesawu i routes2ride, y wefan gymunedol sy’n cynnwys y teithiau beic gorau yng Nghymru fel y gallwch ymuno yn y mudiad Cofrestru
Enghreifftiau o deithiau routes2ride
Llwybr Cwm Elan o'r Rhaeadr
Mae'r daith hon wedi ei lleoli yng nghalon ardal brydferth a mynyddig Canolbarth Cymru. Mae'r llwybr yn dringo 50m (165 troedfedd) o Ganolfan Ymwelwyr Cwm Elan heibio i gronfeydd dŵr Caban Coch a’r Garreg Ddu gyda'u hargaeau gwych a thwr dŵr addurnol, nes cyrraedd pen uchaf Cronfa Ddŵr Penygarreg. Oddi yma mae’r llwybr yn mynd ar i lawr yn ôl i'r cychwyn. Pan fydd y cronfeydd yn llawn gallwch weld miliynau o alwyni o ddŵr yn rhaeadru dros furiau'r argae.
Ymweld â Chymru
Gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn ag ymweld â Chymru, yn cynnwys cyrraedd yno, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a llety.
Ynglŷn â Sustrans
Bob dydd rydym yn gweithio i gael atebion ymarferol a llawn dychymyg ar gyfer yr heriau trafnidiaeth sy’n effeithio ar bob un ohonom.

