Mannau i aros
Os ydych am aros mewn gwesty neu hostel, bwthyn clyd neu mewn pabell, mae dewis gwych o fannau sy’n croesawu beicwyr ar draws y wlad. Mae nifer o fannau yn tanysgrifio i’r Cynllun Croeso i Feicwyr a oruchwylir gan Croeso Cymru ac yn y sefydliadau hyn gallwch ddisgwyl gweld eitemau megis cyfleusterau sychu dillad, mannau diogel i storio beiciau a phryd hwyr neu becyn bwyd fel pethau safonol. Chwiliwch am fathodyn Cynllun Croeso i Feicwyr pan fyddwch yn chwilio am y lle delfrydol i aros.
Croeso Cymru
Chwiliwch ac archebwch ar-lein ar gyfer pob math o lety, yn cynnwys gwely a brecwast, tai gwesty, tai bynciau a gwersylloedd. Mae’n rhestru holl aelodau’r Cynllun Croeso i Feicwyr. Ewch i www.visitwales.com neu ffoniwch: 08708 300 306.
Cymdeithas yr Hostelau Ieuenctid (YHA)
http://www.yha.org.uk/