Symud o gwmpas Cymru
Yng Nghymru gallwch fynd i bron i bobman gan ddefnyddio cyfuniad o drenau, bysiau, fferïau a’ch dwy olwyn eich hun - yr oll sydd ei angen yw ychydig o gynllunio gofalus. Yn gyffredinol, gellir cyrraedd yr ardaloedd mwyaf poblog, y de a’r gogledd, yn hawdd ar fws a thrên ond mae’r gwasanaethau yn llai aml yng Nghanolbarth Cymru.
Traveline Cymru
I gael gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ffoniwch Traveline Cymru 0871 200 22 33 neu ewch i http://www.traveline-cymru.org.uk/
Transport Direct
Gwefan y Llywodraeth sy’n rhoi manylion trafnidiaeth gyhoeddus yn yr Alban, Lloegr a Chymru. Mae’n cynnwys cynlluniwr siwrnai o ddrws i ddrws a chyfrifiannell allyriadau CO2.
http://www.transportdirect.info/
Trenau Arriva
Prif weithredwr trenau yng Nghymru. Gellir cludo beiciau am ddim ar bob gwasanaeth ac mae archebu yn hanfodol ar gyfer rhai llinellau.
http://www.arrivatrainswales.co.uk/ neu ffoniwch: 0845 6061 660.
Bws
I gael gwybodaeth am gludo beiciau ar fws cysylltwch â Traveline Cymru 0871 200 22 33 neu ewch i http://www.traveline-cymru.org.uk/
Gweithredir gwasanaethau bws pellter hir gyda lle i ddau feic gan Traws Cambria:
www.pticymru.com/Traws.htm
Ar gyfer gwasanaethau bws yn Sir Benfro gweler: www.pembrokeshire.gov.uk/coastbus
Mae Bws y Bannau yn rhedeg rhwng Caerdydd ac Aberhonddu ar ddyddiau Sul a Gwyliau Banc o ddiwedd mis Mai hyd fis Medi.
http://www.visitbreconbeacons.com/
Pas Fflecsi Crwydro Cymru
Mynediad digyfyngiad i rwydwaith rheilffyrdd a bysiau Cymru
http://www.walesflexipass.co.uk/