Taith Taf: Aberhonddu i Gaerdydd
Mae Taith Taf, sy’n 55 milltir o hyd, yn llunio un o’r ddau ddewis i orffen Lôn Las Cymru, y llwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol pellter hir sy’n cychwyn yng Nghaergybi ac yn rhedeg ar hyd Cymru gyfan. Mae Taith Taf yn llwybr di-draffig ar y cyfan o ganol tref marchnad brydferth Aberhonddu i Lan y Dŵr yng Nghaerdydd.
Llwybr tynnu Camlas Aberhonddu a Sir Fynwy yw’r llwybr allan o Aberhonddu ac yn fuan bydd yn ymuno â lonydd tawel i ganolfan gweithgareddau awyr agored boblogaidd Talybont. Mae’r llwybr yn dringo’n raddol ar hyd ochr Cronfa Ddŵr Talybont ar hen dramffordd sy’n dringo’n raddol am bum milltir (os cewch y cyfle i’w beicio’r ffordd arall mae’n daith wych ar i lawr). Mae’r golygfeydd yn fwy a mwy trawiadol i Waun Rydd ar ochr arall y gronfa ddŵr.
Wedi adran fer o goedwig, defnyddir lonydd am ychydig filltiroedd nes dod i ddechrau’r adran ddi-draffig nesaf ar hyd llwybr rheilffordd, disgynfa raddol i Ferthyr Tudful, calon y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru ar un adeg.
I’r de o Ferthyr Tudful mae’r llwybr yn aros uwchben y dyffryn, gan fynd drwy hen gymunedau glofaol gyda’u rhesi nodweddiadol o dai teras, ar hyd cyfres o lwybrau rheilffordd a llwybrau tynnu camlas drwy Abercynon a Phontypridd, i lawr heibio i gastell tylwyth teg Castell Coch ac ar hyd y llwybrau glan yr afon o dan Stadiwm y Mileniwm drawiadol i Fae Caerdydd.
Atyniadau naturiol:
- Bannau Brycheiniog
- Cronfa Ddŵr Talybont
- Cronfa Ddŵr Pontsticill
Atyniadau i ymwelwyr:
- Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful
- Castell Coch, Tongwynlais
- Castell Caerdydd
- Bae Caerdydd
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
De Ddwyrain Cymru
- Pellter:
55 milltir
- Amser sydd ei angen:
1 diwrnod hir
- Dosbarthiad:
- Wyneb:
Cymysg
- Llwybr RhBC:
Llwybr Cenedlaethol 8
- Cychwyn:
Aberhonddu
- Gorffen:
Glan y Dŵr Caerdydd
- Mynediad:
Gorsafoedd trên ym Merthyr Tudful a Chaerdydd a sawl gorsaf rhyngddynt.
- Mapiau a llysrynnau:
-
Lôn Las Cymru - De RhC8A £5.99
- Cysylltiadau Gyda:
Lôn Las Cymru i’r gogledd o Aberhonddu i Ganolbarth Cymru
Lôn Geltaidd ym Mhontypridd
- Tywydd:
-
Iau
uchaf: 19°C isaf: 9°C
-
Gwener
uchaf: 21°C isaf: 10°C
-
Sadwrn
uchaf: 19°C isaf: 8°C
-
Sul
uchaf: 17°C isaf: 8°C
Dewis llwybr arall