Pensarn i Brestatyn
Dyma hanner dwyreiniol y promenâd arfordirol sy’n bennaf ddi-draffig sy’n ymestyn bron yn ddi-dor o Landrillo yn Rhos yn y gorllewin i Brestatyn yn y dwyrain.
Mae’r daith yn croesi Afon Clwyd ychydig i’r gorllewin o’r Rhyl, un o’r ychydig fannau ar y daith lle y mae’n rhaid defnyddio adran fer o ffordd. Yn fuan wedi i chi fynd heibio’r llongau lliwgar ym marina’r Rhyl byddwch yn dychwelyd i’r llwybr tarmac esmwyth a llydan, sydd hefyd yn ddi-draffig, gyda golygfeydd i’r gogledd ar draws Bae Lerpwl tuag at glwstwr o dyrbinau gwynt ar y môr.
Beth am aros am hufen ia yn y Rhyl er mwyn rhoi ychydig o egni i chi gyrraedd Prestatyn?
Noder Taith arfordirol agored yw hon a dylech fod yn ymwybodol iawn o’r gwynt (fel arfer o’r gorllewin). Os ydych am feicio yno ac yn ôl mae’n well teithio i mewn i’r gwynt ar y dechrau tra eich bod yn ffres a chael y gwynt i’ch helpu ar y daith yn ôl. Dewis arall yw dal y trên ac yna gwneud taith unffordd, â’r gwynt tu cefn i chi i’ch helpu yn ôl i’r man cychwyn.
Atyniadau naturiol:
- Môr Iwerddon a Bae Lerpwl gyda’i draethau
Atyniadau i ymwelwyr:
- Trefi glan môr Y Rhyl a Phrestatyn
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Larger Map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Gogledd-ddwyrain
- Pellter:
9 milltir
- Amser sydd ei angen:
2 awr
- Dosbarthiad:
Hawdd
- Traffig:
Di-draffig gydag adran fechan ar y ffordd drwy’r Rhyl
- Wyneb:
Tarmac
- Llwybr RhBC:
Llwybr Cenedlaethol 5
- Cychwyn:
Gorsaf reilffordd Abergele a Phensarn
- Gorffen:
Canolfan Groeso Prestatyn
- Llogi beiciau:
On Track Cycle Hire, Uned 3 Parc Busnes Lighthouse, 30 Ffordd Bastion, Prestatyn. Ffôn: 01745 886443 neu www.ontrackgroup.biz/cy
- Mynediad:
Gorsafoedd trên ym Mhensarn ac Abergele, Y Rhyl a Phrestatyn
- Mapiau a llysrynnau:
-
Mae Cycling in the Uk gan Sustrans yn cynnwys y daith hon.
- Cysylltiadau Gyda:
Gallwch barhau i’r gorllewin o Bensarn ar yr un promenâd arfordirol i Landrillo yn Rhos
- Tywydd:
-
Mercher
uchaf: 19°C isaf: 11°C
-
Iau
uchaf: 13°C isaf: 10°C
-
Gwener
uchaf: 13°C isaf: 11°C
-
Sadwrn
uchaf: 17°C isaf: 14°C
Dewis llwybr arall