Lôn Teifi: Aberystwyth i Abergwaun
Gan gychwyn yn nhref prifysgol Aberystwyth, mae Lôn Teifi yn dilyn yr un llwybr â Lôn Cambria ar hyd Cwm Ystwyth i Bont-rhyd-y-groes cyn troi i’r de orllewin i groesi’r wahanfa ddŵr a disgyn i lawr i ddyffryn Afon Teifi. Dilynir yr afon yr holl ffordd i’r arfordir yn Aberteifi, gan fynd trwy drefi ysblennydd Tregaron, Llanbed, Llandysul a Chastellnewydd Emlyn (gyda’i gastell adfeiliog).
Mae nifer o adrannau esmwyth o’r dyffryn, megis yr adrannau wrth ddynesu at Lanbed a Llandysul o’r gogledd orllewin, ond mae hefyd nifer o ddringfeydd lle bydd y llwybr yn troi i oddi wrth lawr y dyffryn. Daw’r ddringfa fwyaf amlwg o’r llwybr wedi gadael Aberteifi a Dyffryn Teifi wrth i chi fynd am y bryniau ac yna disgyn i lawr i Drefdraeth. Ceir dringfa amlwg arall ar ôl gadael Trefdraeth, ond hon yw’r olaf wrth i chi ddisgyn i lawr i Gwm Gwaun a dod i ben y daith yn yr Ocean Lab yn Abergwaun.
Atyniadau naturiol:
- Cwm Ystwyth
- Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron
Atyniadau i ymwelwyr:
- Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth
- Amgueddfa’r Barcud Coch, Tregaron
- Canolfan Gwryglau, Cenarth
- Castell Cilgerran
- Abaty Llandudoch
- Canolfan Eco, Trefdraeth
- Ocean Lab, Abergwaun
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Gorllewin a Chanolbarth Cymru
- Pellter:
100 milltir
- Amser sydd ei angen:
2-3 diwrnod
- Dosbarthiad:
Cymedrol
- Llwybr RhBC:
Llwybr Cenedlaethol 82
- Cychwyn:
Aberystwyth
- Gorffen:
Abergwaun
- Mynediad:
Gorsafoedd trenau yn Aberystwyth ac Abergwaun
- Mapiau a llysrynnau:
-
Lôn Cambria a Lôn Teifi RhC81 £5.99
- Cysylltiadau Gyda:
Lôn Cambria ym Mhont-rhyd-y-groes i’r de ddwyrain o Aberystwyth.
Y Lôn Geltaidd yn Abergwaun.
- Tywydd:
-
Heddiw
uchaf: 13°C isaf: 9°C
-
Sul
uchaf: 15°C isaf: 11°C
-
Llun
uchaf: 14°C isaf: 7°C
-
Mawrth
uchaf: 10°C isaf: 3°C
Dewis llwybr arall