Nôl

Lôn Las Ogwen o Fangor i Lyn Ogwen

Mae Lôn Las Ogwen yn daith fendigedig gyda golygfeydd mynyddig gwych wrth i chi ddringo i’r de o’r arfordir ym Mangor (Porth Penrhyn) ar hyd llwybr rheilffordd drwy goedwig lydanddail sy’n rhedeg gydag Afon Cegin i bentref Tregarth. Mae’r daith yn parhau i fyny drwy wastraff y chwarel lechi ar lwybr sydd wedi ei gynllunio’n dda gyda golygfeydd hyd yn oed gwell o fynyddoedd Eryri o’ch blaen.  Mae’r llwybr yn ymuno ag isffordd sy’n rhedeg yn gyfochrog â’r A5 brysur ac felly dim ond ychydig o draffig sydd arni. Mae dringfa olaf yn mynd â chi ar lan Llyn Ogwen lle y mae caffi ac fel arfer sawl gr?p yn mwynhau gweithgareddau awyr agored, naill ai’n cerdded, dringo neu’n beicio. Mae’r mynyddoedd yn codi i dros 3000 troedfedd bob ochr i’r ffordd. Dechreuwyd chwareli Penrhyn, a gloddiau lechi ar gyfer Bethesda, ym 1770 gan Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn, a’r system cloddio brig mwyaf yn y byd, gan ffurfio amffitheatr milltir o hyd a 1200 troedfedd o ddyfnder. Adeiladwyd rheilffordd y gwaith chwarel, y mae’r llwybr yn ei dilyn, rhwng 1870 a 1801.  Cyn hyn byddai’r llechi a gloddiwyd ym Methesda yn cael eu cludo gan geffylau pwn neu fulod gyda chertiau ac ar dramffordd a adeiladwyd ym 1801.  Caewyd y llinell ym 1962.  Gyda’r ffortiwn a wnaethant o’r fasnach llechi adeiladwyd Castell Penrhyn gothig-ffug sydd erbyn hyn yn gartref i amgueddfa ddoliau, casgliad o drenau diwydiannol ac amrywiaeth o anifeiliaid wedi eu stwffio.

Noder: Mae dringfa o bron i 1000 troedfedd o Fangor i Lyn Ogwen felly bydd hi’n daith llawer arafach ar y ffordd i fyny nag y bydd wrth ddychwelyd. I gael taith fwy hamddenol, ewch ond cyn belled â Thregarth, sydd â dringfa o lai na 300 troedfedd.


Atyniadau naturiol:


  • Golygfeydd o Eryri

  • Llyn Ogwen

Atyniadau i ymwelwyr:


  • Porth Penrhyn

Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans

Tagiau


Nôl i'r brig

Map o'r Llwybr


View Larger Map

Sylwadau (0)

Please login or register to comment.

Nôl i'r brig

Manylion allweddol y llwybr

Rhanbarth/Ardal:

Gogledd-orllewin

Pellter:

11 milltir

Amser sydd ei angen:

2 awr

Dosbarthiad:

Traffig:

Di-draffig i Dregarth (8 milltir) ac yna cymysgedd o lwybrau di-draffig a lonydd tawel

Wyneb:

Cymysg

Llwybr RhBC:

Llwybr Cenedlaethol 85

Cychwyn:

Porth Penrhyn, i'r gogledd ddwyrain o Fangor

Gorffen:

Bwthyn Ogwen, Llyn Ogwen

Llogi beiciau:

Dim ym Mangor, yr agosaf yng Nghaernarfon

Mynediad:

Gorsaf drên ym Mangor

Mapiau a llysrynnau:






nn4bMap Lôn Las Cymru Gogledd NN8B £6.99

ctguideArweinlyfr Lôn Las Cymru – £6.99

Taflen Bwrdeistref Sirol Conwy – PDF am ddim

Cysylltiadau Gyda:

Mae’r llwybrau di-draffig agosaf yn cychwyn yn Llangefni (Ynys Môn) neu yng Nghaernarfon


Dewis llwybr arall
Sustrans