Lôn Las Cymru o Gaergybi i Gaerdydd neu Gas-gwent
Mae Lôn Las Cymru, a agorwyd ym 1995 yn rhedeg dros 250 o filltiroedd ar hyd Cymru gyfan o Gaergybi i Gas-gwent neu i Gaerdydd. Mae’n un o’r llwybrau pellter hir anoddaf sydd ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, yn anoddach na hyd yn oed y ‘Sea-to Sea’ (C2C) enwog. Oherwydd hyn mae’n cynnig her i bawb sy’n chwilio am daith 5-7 diwrnod ysblennydd.
Gan groesi tair cadwyn o fynyddoedd mae’n gofyn am ysgyfaint a choesau cryf. Fodd bynnag mae’n werth cymryd yr her: mae’r golygfeydd ymhlith y mwyaf trawiadol ym Mhrydain, yn cynnwys lonydd tawel Ynys Môn, coedwigoedd mawreddog Coed-y-Brenin, Moryd Afon Mawddwy gyda’i hawyrgylch hynod, dyffryn hyfryd Afon Gwy rhwng Llangurig a Clas-ar-Wy a’r golygfeydd panoramig a geir o Fwlch yr Efengyl ar y llwybr drwy’r Mynyddoedd Du.
Mae i’r daith ddewis o ddau fan gorffen sy’n cynnig adrannau olaf gwahanol iawn i’r daith: bydd y dewis i Gaerdydd yn mynd â chi ar Daith Taf, sy’n bennaf ddi-draffig, o Aberhonddu drwy dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog cymoedd De Cymru i ddatblygiadau newydd Bae Caerdydd; mae gorffen yng Nghas-gwent yn parhau ar daith wledig yr holl ffordd i’r diwedd, gyda’r llwybr yn ymdroelli ei ffordd ar hyd y lonydd, bryniau a choedwigoedd Sir Fynwy. Eich dewis chi ydyw!
Adrannau dyddiol
Gellir torri’r llwybr yn gymalau, gyda’r rhan fwyaf tua 25-40 milltir o hyd. Efallai y byddwch am gyfateb y cymalau hyn gyda thaith bob dydd, ond cofiwch mai dim ond awgrym yw hyn: efallai y byddwch yn dewis gwneud mwy nag un cymal y dydd neu efallai y byddai’n well gennych wneud hanner diwrnod a chymryd seibiant er mwyn ymweld â rhai o’r atyniadau ar hyd y ffordd. Mae’r cymalau yn cychwyn ac yn gorffen mewn trefi lle y bydd dewis rhesymol o lety a lluniaeth.
Os ydych yn beicio’r llwybr gogledd i’r de cyfan ar feiciau teithio llwythog awgrymir eich bod yn osgoi Cymal 4A gan fod hon yn cynnwys adrannau caregog drwy Goedwig Coed-y-Brenin sydd ond yn addas ar gyfer beiciau mynydd a byddai’n well teithio’r rhan yma gyda chyn lleied o fagiau â phosibl. Fodd bynnag, gyda map Arolwg Ordnans (Landranger 124) mae’n hawdd dewis lôn arall gan osgoi’r llwybrau garw.
Cymal 1: Caergybi i Gaernarfon (41 milltir).
Cymal 2: Caernarfon i Borthmadog (29 milltir).
Cymal 3: Porthmadog i Ddolgellau trwy’r Bermo (35 milltir).
Cymal 3A: Porthmadog i Ddolgellau trwy Drawsfynydd (29 milltir).
Cymal 4: Dolgellau i Fachynlleth trwy Gorris (15 milltir).
Cymal 4A: Dolgellau i Fachynlleth ar hyd Llwybr Mawddach a thrwy Dywyn (36 milltir).
Cymal 5: Machynlleth i Lanidloes trwy Dylife (24 milltir).
Cymal 6: Llanidloes i Lanfair-ym-muallt trwy Rhaeadr Gwy (32 milltir).
I orffen yng Nghas-gwent
Cymal 7: Llanfair-ym-Muallt i’r Fenni trwy Clas-ar-Wy a Bwlch yr Efengyl (40 milltir)
Cymal 8: Y Fenni i Gas-gwent (27 milltir)
I orffen yng Nghaerdydd
Cymal 7: Llanfair-ym-Muallt i Aberhonddu trwy Dalgarth (32 milltir)
Cymal 8: Aberhonddu i Gaerdydd ar hyd Taith Taf (55 milltir)
Atyniadau naturiol:
- Mynydd Caergybi
- Golygfeydd o Eryri
- Cadair Idris
- Moryd Afon Mawddach
- Llyn Clywedog
- Cwm Elan
- Y Mynyddoedd Du a Bwlch yr Efengyl
Atyniadau i ymwelwyr:
- Plas Newydd, Ynys Môn
- Eglwys Gadeiriol Bangor
- Castell Caernarfon
- Gwaith Llechi Inigo Jones, Groeslon
- Castell Criccieth
- Portmeirion
- Gorsaf Bŵer Trawsfynydd
- Castell Harlech
- Y Bermo
- Dolgellau
- Canolfan Technoleg Amgen, Machynlleth
- Celtica, Machynlleth
- Llanidloes
- Rhaeadr Gwy
- Llanfair-ym-Muallt
- Abaty Llantoni
- Castell Cas-gwent
- Castell Coch
- Castell Caerdydd
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Larger Map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Ar hyd Cymru gyfan, gogledd i'r de
- Pellter:
250 milltir
- Amser sydd ei angen:
5-7 diwrnod
- Dosbarthiad:
- Wyneb:
Cymysg
- Llwybr RhBC:
8
- Cychwyn:
Caergybi ar Ynys Môn
- Gorffen:
Glan y Dŵr, Caerdydd; Castell Cas-gwent
- Mynediad:
Gorsafoedd trên yng Nghaergybi a Chaerdydd a sawl man rhyngddynt
- Mapiau a llysrynnau:
-
Map Lôn Las Cymru Gogledd NN8B £6.99
Map Lôn Las Cymru De NN8A £6.99
Arweinlyfr Lôn Las Cymru – £6.99
- Cysylltiadau Gyda:
Lôn Cambria yn Rhaeadr
Lôn Geltaidd ger Pontypridd
Llwybr Cenedlaethol 5 ym Mangor
Me2
Dewis llwybr arall