Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, Fourteen Locks i Gwmbrân
Arferai dwy gamlas redeg i’r gogledd ac i’r gorllewin o Gasnewydd, un o Bont-y-pŵl a’r llall i Drecelyn. Erbyn hyn mae’r ddwy wedi dadfeilio ond mae’r ddau lwybr tynnu yn dal yn gyfan ar hyd yr M4 i Barrack Hill ar gyrion Casnewydd yna i’r gogledd at gyrion Cwmbrân.
Am ardal mor adeiledig mae’r gamlas yn goridor gwyrdd gyda llwybr tynnu graean llydan a golygfeydd i’r bryniau sy’n codi i dros 1,000 troedfedd yn ei ben gorllewinol.
Adeiladwyd adran 11 milltir cyntaf y gamlas rhwng 1792 a 1796 er mwyn cysylltu Casnewydd â Phontnewydd (i’r gogledd o Bont-y-pŵl). Ychwanegwyd y gangen arall yn fuan wedyn, o Malpas i Grymlyn (drwy Risga a Crosskeys).
Agorwyd gweddill y gamlas, o Bont-y-pŵl i Aberhonddu, ym 1812. Fel y digwyddodd yn y rhan fwyaf o achosion, disodlwyd y camlesi gan y rheilffyrdd a hyd yn oed erbyn 1950 roedd y rhwydwaith camlesi yn dechrau dirywio. Ym 1962 rhoddwyd y gorau i’r rhwydwaith a chafodd rhai rhannau eu llenwi. Mae gwaith adfer ar yr adran i’r gogledd o Bont-y-pŵl wedi ei gwneud hi’n bosibl i fordwyo i’r gogledd oddi yma i Aberhonddu.
Atyniadau naturiol:
- Golygfeydd o fryniau sy’n codi i 1,000 troedfedd
Atyniadau i ymwelwyr:
- Canolfan Ymwelwyr Fourteen Locks
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Larger Map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Casnewydd, De Cymru
- Pellter:
6 milltir un ffordd
- Amser sydd ei angen:
2-3 awr
- Dosbarthiad:
Hawdd
- Traffig:
Di-draffig
- Wyneb:
Graean
- Llwybr RhBC:
Llwybrau Cenedlaethol 47 / 49
- Cychwyn:
Canolfan Ymwelwyr Fourteen Locks ger Cyffordd 27 yr M4.
- Gorffen:
Cwmbrân
- Llogi beiciau:
Yr agosaf yng Nghaerdydd
- Mynediad:
Gorsaf drên yng Nghasnewydd
- Mapiau a llysrynnau:
-
Lôn Geltaidd – Dwyrain RhC4B £5.99
- Cysylltiadau Gyda:
Trwy Gwmbrân i lwybr rheilffordd Pont-y-pŵl a Blaenafon (Llwybr Cenedlaethol 492)
Trwy Risga a Crosskeys i Ddyffryn Sirhowy (Llwybr Cenedlaethol 47)
- Tywydd:
-
Llun
uchaf: 17°C isaf: 11°C
-
Mawrth
uchaf: 17°C isaf: 13°C
-
Mercher
uchaf: 18°C isaf: 12°C
-
Iau
uchaf: 17°C isaf: 9°C
Dewis llwybr arall