Llwybr Mawddach o Ddolgellau i'r Bermo
Mae Llwybr Mawddach, rhan o Lôn Las Cymru (Llwybr 8 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol) sy’n rhedeg o Gaergybi i Gaerdydd, yn rhedeg ar hyd moryd Afon Mawddach ac yn un o’r llwybrau rheilffordd mwyaf prydferth yn y wlad.
Mae’r llwybr yn cychwyn yng nghanol tref carreg lwyd Dolgellau, o gornel y prif faes parcio wrth y bont dros yr afon. Ceir golygfeydd ar draws y bryniau i’r gogledd sy’n codi dros 2000 troedfedd. Ar y llwybr mae dwy bont bren atmosfferig, y gyntaf yn dollbont ym Mhenmaen-pŵl sy’n cludo traffig ffordd a’r llall yng ngheg y foryd ar gyfer y llinell reilffordd ac i gludo cerddwyr a beicwyr, i’r Bermo.
Mae llawer o adar yn yr ardal, ac os ydych yn ffodus efallai y gwelwch forlo. Mae gwarchodfa RSBP ym Mhenmaen-pŵl a defnyddir yr hen flwch signal fel canolfan wylio.
Mae Gwesty George III ym Mhenmaen-pŵl wedi ei leoli mewn safle ardderchog ac mae’n boblogaidd iawn gyda beicwyr ar gyfer coffi, cinio a the. Ar un adeg roedd moryd Afon Mawddach yn ganolfan adeiladu llongau a rhwng 1770 a 1827 adeiladwyd dros 100 o gychod o’r pren derw lleol oedd i’w gael ar lan y foryd. Mae Llwybr Mawddach yn dilyn llwybr yr hen reilffordd o’r Bermo i Riwabon a agorodd ym 1869 ac a ddaeth yn boblogaidd gyda phobl ar eu gwyliau yn Oes Victoria, yn arbennig y rheini o Ogledd Orllewin Lloegr oedd yn ymweld â thref boblogaidd y Bermo. Caewyd y llinell reilffordd ym 1965.
Atyniadau naturiol:
- Moryd Afon Mawddach
Atyniadau i ymwelwyr:
- Tref glan môr y Bermo
- Hen adeiladau atyniadol Dolgellau
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Larger Map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Gwynedd
- Pellter:
9 milltir un ffordd
- Amser sydd ei angen:
3-4 awr
- Dosbarthiad:
Hawdd
- Traffig:
Di-draffig cyn belled â'r hen bont reilffordd bren ger y Bermo ac yna ar ffordd i mewn i’r dre.
- Wyneb:
Tarmac / Graean
- Llwybr RhBC:
Llwybr Cenedlaethol 8
- Cychwyn:
Prif faes parcio yn Nolgellau
- Gorffen:
Y Bermo
- Llogi beiciau:
Dolgellau Cycles, Dolgellau. Ffôn: 01341 423332 neu www.dolgellaucycles.co.uk
- Mynediad:
Gorsaf drên yn y Bermo
- Mapiau a llysrynnau:
-
Lôn Las Cymru - Gogledd RhC8B £5.99
- Cysylltiadau Gyda:
Mae digon o lwybrau beiciau mynydd yng Nghoedwig Coed y Brenin i’r gogledd o Ddolgellau.
- Tywydd:
-
Sul
uchaf: 19°C isaf: 13°C
-
Llun
uchaf: 16°C isaf: 14°C
-
Mawrth
uchaf: 20°C isaf: 15°C
-
Mercher
uchaf: 18°C isaf: 11°C
Dewis llwybr arall