Cyrraedd yma
Pan yn teithio i Gymru o rywle yn y DU beth am wneud y siwrnai yn rhan o'r profiad drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus? Mae digon o sefydliadau all eich cynorthwyo i gynllunio eich taith.
Ar y trên
Mae gwasanaethau trên yn mynd i bob dinas yng Nghymru. Mae'n cymryd llai 3 awr i deithio o Lundain i Gaerdydd. I gael manylion siwrneiau trafnidiaeth gyhoeddus ledled y DU ffoniwch traveline ar 0870 608 2608 neu ewch i http://www.transportdirect.info/
Er y gall beiciau fel arfer gael eu cludo ar drenau mae'n werth gwirio ymlaen llaw ac archebu lle, gan fod y gofod yn gyfyngedig.
Y prif weithredwyr trên yw First Great Western, Trenau Arriva, Llinell Calon Cymru a Rheilffordd Cambria. I gael gwybodaeth am yr amserlenni neu i archebu tocynnau denfyddiwch National Network neu'r gweithredwyr trên unigol. Efallai na fyddwch yn gallu archebu lle i'ch beic ar wefan pob gweithredwr felly galwch eu rhif gwerthu dros y ffôn os bydd angen.
National Rail: I gael gwybodaeth am y gwasanaeth rheilffordd cenedlaethol yn y DU, yn cynnwys amserlenni a gwybodaeth teithio amser real. http://www.nationalrail.co.uk/ neu ffoniwch: 0845 748 49 50.
First Great Western - http://www.firstgreatwestern.co.uk/ neu ffoniwch: 08457 000 125.
Trenau Arriva - http://www.arrivatrainswales.co.uk/ neu ffoniwch: 0845 6061 660.
Llinell Calon Cymru - http://www.heart-of-wales.co.uk/ neu ffoniwch: 01597 822053.
Rheilffordd Cambria - http://www.thecambrianline.co.uk/ neu ffoniwch: 01654 700120
Cerdyn Rheilffordd
Gellir cael gwybodaeth am gardiau rheilffordd a all arbed traean ar bris teithio ar y trên ar-lein yn http://www.railcard.co.uk/
Traintracker
Amseroedd trenau yn fyw ac amserlenni trenau ar gyfer y tri mis nesaf, ffoniwch: 0871 200 49 50.
The Trainline
Cwmni sy'n cynnig gwasanaeth prynu tocynnau trên ar-lein, ewch i: http://www.thetrainline.com/
Ar y bws
Mae teithio ar y bws yn werth da am arian er bod amseroedd siwrneiau yn dueddol o fod ychydig yn hwy nag ar y trên. I gael gwybodaeth am gludo beiciau ar y bws cysylltwch â Traveline Cymru 0871 200 22 33 neu ewch i http://www.traveline-cymru.org.uk/
Pas Fflecsi Crwydro Cymru
Mynediad digyfyngiad i rwydwaith rheilffyrdd a bysiau Cymru http://www.walesflexipass.co.uk/
Ar y fferi
Gwasanaethau fferi o Iwerddon: Mae Stena Line yn gweithredu gwasanaeth fferi o Rosslare i Abergwaun ac o Ddulyn i Gaergybi. Mae Irish Ferries yn gweithredu o Rosslare i Benfro ac o Ddulyn i Gaergybi. Mae'r rhan fwyaf o weithredwyr fferi yn cludo beiciau.
Stena Line - http://www.stenaline.co.uk/ neu ffoniwch: 08705 70 70 70.
Irish Ferries - http://www.irishferries.com/ neu ffoniwch: 08705 17 17 17.

