Nôl

Deall arwyddion llwybrau

Mae llawer o reidiau y rhoddir sylw iddynt ar y wefan hon yn dilyn llwybrau’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.  Dylai deall arwyddion llwybrau wrth feicio wella’r modd yr ydych yn gallu mynd o gwmpas a’ch mwynhad o’r daith.

Y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol 

 

Mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhwydwaith cynhwysfawr o lwybrau diogel a deniadol i feicio a cherdded arnynt drwy’r DU.  Mae Sustrans yn cydlynu’r Rhwydwaith gyda chefnogaeth 450 o awdurdodau lleol a phartneriaid eraill.  Mae traean o’r Rhwydwaith yn ddi-draffig – mae’r gweddill yn dilyn lonydd tawel a ffyrdd lle mae traffig wedi ei dawelu.  I gael gwybodaeth bellach am Sustrans a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ewch i www.sustrans.org.uk

Arwyddion a rhifau llwybrau 

Mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol wedi ei arwyddo gan ddefnyddio’r system a fodelwyd ar Rwydwaith Beicio Denmarc ac a fabwysiadwyd gan yr Adran Trafnidiaeth, Llywodraeth yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.  Mae’r un system bellach yn cael ei mabwysiadu gan nifer o wledydd eraill yn Ewrop.  Mae’r arwyddion yn dangos rhif y llwybr a ddilynir.  Dangosir rhifau’r Llwybrau Cenedlaethol ar gefndir coch a dangosir rhifau Llwybrau Rhanbarthol ar gefndir glas.Mae’r rhif ar yr arwyddion yn ymwneud â’r llwybr yr ydych wedi dewis ei ddilyn.  Lle bo map beicio ac arwyddion yn wahanol, dilynwch yr arwyddion.  Fe welwch hefyd arwyddion wedi eu gosod gan ein tîm o geidwaid gwirfoddol ar rai adrannau o’r llwybr. 

Gweler isod enghraifft o’r arwydd ar gyfer Llwybr Beicio Cenedlaethol 7

ncn7_sign

Sustrans