Nôl

Llwybr Trevithick: Merthyr Tudful i Abercynon

image

Teithiwch yn ôl mewn amser ar Lwybr Trevithick - llwybr trawiadol a hanesyddol bwysig sy’n cadw’n agos at lwybr hen Dramffordd Merthyr o Ferthyr Tudful i Abercynon.

Ar y dramffordd hon y gwnaeth locomotif Penydarren hanes drwy fod y locomotif dan rym ager gyntaf i dynnu llwyth ar gledrau. Gwnaeth meistri haearn lleol fet am 500 gini na allai dynnu 10 tunnell o haearn. Fodd bynnag, ar 21 Ionawr 1804, wedi 4 awr a thrac wedi torri, cwblhaodd injan Richard Trevithick y daith 9 milltir o Benydarren i Abercynon! Heddiw dylech allu cwblhau’r 9 milltir yn llawer cynt ond gallwn eich sicrhau y bydd digon i dynnu eich sylw ar hyd y ffordd.

Mae’r llwybr mor gywir i’r siwrnai wreiddiol ac a ganiateir gan 200 mlynedd o ddatblygiad, ond fe gewch riwiau byr ac adrannau ar ffyrdd preswyl tawel a fydd yn torri’r siwrnai. Ceir golygfeydd eang o’r mynyddoedd a’r dyffrynnoedd a fydd yn eich rhyfeddu. Mae prosiect Llwybr Trevithick wedi gosod darnau o waith celf gwreiddiol ar hyd y daith ac mae’r ardal o amgylch Twnnel Trevithick yn werth ei harchwilio.

Os bydd angen i chi ddod oddi ar y llwybr ym Mhentrebach - efallai er mwyn mynd i’r parc busnes lleol, neu brynu rhywbeth ar gyfer eich picnic mewn archfarchnad leol - cewch eich croesawu gan Bont y Pwdler eiconig, a enwyd ar ôl y gweithwyr haearn a oedd unwaith yn byw yn yr ardal. Arhoswch am ennyd ar y Fainc Portreadau, sy’n cynnwys modelau maint llawn o’r cynllunydd ffasiwn Julien Macdonald, Laura Ashley a anwyd ym Merthyr a’r gŵr a roddodd ei enw i’r llwybr, Richard Trevithick.

Yng Ngwarchodfa Natur Pontygwaith bydd Llwybr Trevithick yn ymuno â RhBC 8 lle gallwch ddychwelyd i Ferthyr Tudful ar Daith Taf heb orfod olrhain eich camau. Neu gallwch gadw ar Lwybr Trevithick i’r de ar hyd RhBC 8 i Abercynon a theithio ar hen dramffordd anhygoel sy’n rhedeg yn gyfochrog ag Afon Taf. Cofiwch edrych ar y llawr er mwyn gweld y trawstiau sylfaen gwreiddiol - sydd erbyn hyn dros 200 mlwydd oed!

Atyniadau naturiol:

  • Coetiroedd ger Twnnel Trevithick

  • Gwarchodfa Natur Pont-y-gwaith

Atyniadau i ymwelwyr:

  • Twneli Trevithick

Cynigwyd y llwybr gan:

Sustrans

Tagiau

Nôl i'r brig

Map o'r Llwybr

Sylwadau (0)

Please login or register to comment.

Nôl i'r brig

Manylion allweddol y llwybr

Rhanbarth/Ardal:

Cymoedd De Cymru

Pellter:

9 milltir

Amser sydd ei angen:

1.5 awr

Dosbarthiad:

Traffig:

Di-draffig yn bennaf. Rhai adrannau ar ffyrdd preswyl tawel.

Wyneb:

Cymysg

Llwybr RhBC:

Llwybr Cenedlaethol 477 a Llwybr Cenedlaethol 8

Cychwyn:

Merthyr Tudful

Gorffen:

Abercynon

Llogi beiciau:

Canolfan y Summit, Yr Hen Bwll Drifft, Trelewis, CF46 6RD.  01443 710749 www.summitcentre.co.uk

Mynediad:

Gorsafoedd trên Merthyr Tudful, Abercynon a sawl gorsaf rhyngddynt.

Mapiau a llysrynnau:

nn4bMap Lôn Geltaidd Dwyrain NN4B £6.99
ctguideArweinlyfr Lôn Geltaidd – £6.99
ctguideTaflen Taith Taf – PDF am ddim
ctguideTaflen Lôn Geltaidd – Pdf am ddim

Arweinlyfrau a chyhoeddiadau:

Lôn Geltaidd Dwyrain RhC4B

Cysylltiadau Gyda:

  • Taith Taf (RhBC 8) ym Merthyr Tudful a Mynwent y Crynwyr.

  • Y Lôn Geltaidd (RhBC 47) ym Mynwent y Crynwyr.

Tywydd:
Chance of Rain

Iau

uchaf: 18°C isaf: 8°C

Rain

Gwener

uchaf: 17°C isaf: 9°C

Chance of Rain

Sadwrn

uchaf: 21°C isaf: 8°C

Partly Sunny

Sul

uchaf: 18°C isaf: 6°C

Dewis llwybr arall
Sustrans