Trawsfynydd i Gellilydan
Mae’r daith fer fer hon yn wych os ydych am ddianc rhag y torfeydd a mwynhau mynyddoedd creigiog de Eryri.
Gan ddechrau ar y brif stryd sy’n rhedeg drwy bentref Trawsfynydd cewch olygfeydd rhyfeddol ar draws Llyn Trawsfynydd gyda mynyddoedd y Rhinogydd yn y cefndir. Mae’r daith yn rhedeg yn gyfochrog â chefnffordd yr A470 am filltir cyn ymuno â llwybr ceffylau sy’n eich arwain tua’r llyn. Gan ddilyn glan y llyn drwy’r ardal goediog fe ddewch i safle’r cyn orsaf bŵer niwclear sydd erbyn hyn yn cael ei datgomisiynnu, ond sy’n dal i fod yn bresenoldeb trawiadol yn yr amgylchedd naturiol.
Mae’r daith yn dilyn llwybr ceffylau tu cefn i’r orsaf bŵer ac yn disgyn i lawr i bentref bychan Gellilydan lle gallwch gael rhagor o gyflenwadau y dafarn neu’r siop.
Mae hi hefyd yn bosibl ymestyn y daith hon drwy fynd o amgylch ochr ddeheuol y llyn am ychydig mwy o filltiroedd, ond sylwer nad yw’n bosibl beicio yr holl fordd o amgylch glan y llyn.
Am agor o wybodaeth gweler map beicio Lôn Las Cymru - Gogledd neu daflen Lonydd Glas Gwynedd Recreational Routes gan Gyngor Gwynedd.
Atyniadau naturiol:
- Mynyddoedd deheuol Eryri
- Llyn Trawsfynydd
Atyniadau i ymwelwyr:
- Canolfan Groeso Coed y Brenin
- Gorsaf Bŵer
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Trawsfynydd to Gellilydan in a larger map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Gogledd-orllewin
- Pellter:
4 milltir
- Dosbarthiad:
Hawdd
- Traffig:
Di-draffig yn bennaf ond gyda rhai isffyrdd
- Wyneb:
Tarmc
- Llwybr RhBC:
8
- Cychwyn:
Trawsfynydd
- Gorffen:
Gellilydan
- Mapiau a llysrynnau:
-
Map Lôn Las Cymru Gogledd NN8B £6.99
Arweinlyfr Lôn Las Cymru – £6.99
- Tywydd:
-
Iau
uchaf: 14°C isaf: 6°C
-
Gwener
uchaf: 12°C isaf: 7°C
-
Sadwrn
uchaf: 15°C isaf: 7°C
-
Sul
uchaf: 13°C isaf: 3°C
Dewis llwybr arall

