Taith Taf i'r gogledd o Ferthyr Tudful

Ar ei fan uchaf mae’r llwybr ardderchog hwn yn cyrraedd 439 metr ond mae’n dechrau ar Draphont Fawreddog Cefn Coed ym Merthyr Tudful. Mae pob un o 16 bwa’r draphont, a adeiladwyd ym 1868 i gludo Rheilffordd Aberhonddu i Ferthyr, yn 40 troedfedd o led.
Gan ymuno ag adran o Daith Taf 55 milltir o hyd i’r gogledd orllewin o Ferthyr Tudful, wedi dim ond taith fer byddwch yng Ngwarchodfa Natur Taf Fechan. Mae’r ardal hon yn llawn rhywogaethau sy’n mwynhau calchfaen.
Wedi cyrraedd Pontsarn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mae’n hawdd gweld sut y bu’r pentrefan bychan hwn yn fan lle byddai glowyr a’u teuluoedd yn dianc iddo o’r trefi diwydiannol cyfagos.
Ar ddiwedd y rheilffordd, mae nodweddion naturiol Pontsarn yn cynnwys Pwll Glas, rhaeadr ac ambell i dafarn sy’n dal yn orlawn ar ddiwrnod braf o haf. Mae gan y pentrefan hefyd draphont â saith bwa. Gan symud ymlaen, mae dyfroedd dwfn a llonydd Cronfa Ddŵr Pontsticill yn olygfa gwerth ei gweld. Mae’n dal 3,400 miliwn galwyn o ddŵr ac yn gorwedd mewn dwy sir - Merthyr Tudful a Phowys - a hon yw’r gronfa ddŵr fwyaf yn yr ardal, a adeiladwyd ym 1927.
Yn gorwedd i’r de o’r llwybr mae Castell Cyfarthfa, a godwyd ym 1824 ar gyfer teulu’r Crawshay, y meistri haearn grymus, ac erbyn hyn mae’n amgueddfa ac oriel gelf sydd ar agor i’r cyhoedd. Mae’n werth ymweld â’r castell cyn cychwyn ar y daith hyfryd hon gyda golygfeydd mynyddig dramatig.
Atyniadau naturiol:
- Pwll Glas a rhaeadr ym Mhontsarn
- Gwarchodfa Natur Taf Fechan
- Cronfa Ddŵr Pontsticill
- Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Atyniadau i ymwelwyr:
- Traphont Cefn Coed
- Traphont Pontsarn
- Castell Cyfarthfa
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Cymoedd De Cymru
- Pellter:
4 milltir
- Amser sydd ei angen:
0.5 awr
- Dosbarthiad:
- Traffig:
Di-draffig ac yna lôn dawel i'r gronfa ddŵr
- Wyneb:
Tarmac
- Llwybr RhBC:
Llwybr Cenedlaethol 8
- Cychwyn:
Traphont Cefn Coed, i'r gogledd orllewin o Ferthyr Tudful
- Gorffen:
Cronfa Ddŵr Pontsticill
- Llogi beiciau:
Dim ym Merthyr Tudful, mae'r agosaf yn Aberhonddu neu'r Fenni
- Mynediad:
Gorsaf drên ym Merthyr Tudful
- Mapiau a llysrynnau:
-
Map Lôn Las Cymru De NN8A £6.99
Arweinlyfr Lôn Las Cymru – £6.99
Taflen Taith Taf – Pdf am ddim
- Cysylltiadau Gyda:
Mae Taith Taf yn parhau bron yn gyfan gwbl ddi-draffig i’r de o Ferthyr Tudful i Gaerdydd.
- Tywydd:
-
Iau
uchaf: 18°C isaf: 8°C
-
Gwener
uchaf: 17°C isaf: 9°C
-
Sadwrn
uchaf: 21°C isaf: 8°C
-
Sul
uchaf: 18°C isaf: 6°C
Dewis llwybr arall

