Llwybr Beicio Swiss Valley

Mae Llanelli wedi dod yn ganolbwynt ar gyfer llwybrau di-draffig yn natblygiad y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn Ne Cymru: mae’n gorwedd ar y man hanner ffordd ym Mharc Arfordirol y Mileniwm gwych gyda llwybrau yn mynd i’r gorllewin tuag at Barc Gwledig Pembre ac i’r dwyrain tuag at Abertawe tra bod y llwybr hwn yn dringo i fyny o Barc Dŵr y Sandy i’r bryniau tonnog uwchben y dref, gan fynd heibio i Faes Rygbi Llanelli, Bragdy Felinfoel, Cwm Lliedi a Chronfeydd Dŵr Lliedi Uchaf i’w fan gorffen yn Cross Hands.
Yn agos i’w ben gogleddol mae llwybr wedi ei arwyddbostio yn arwain oddi wrth y llwybr rheilffordd ar lonydd tawel i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Neuadd Middleton. Mae dringfa raddol 550 troedfedd o Lanelli sy’n rhoi cymorth disgyrchiant i chi ar y daith yn ôl i’r cychwyn.
Atyniadau naturiol:
- Cronfeydd Dŵr Lliedi
Atyniadau i ymwelwyr:
- Y Ganolfan Ddarganfod, Llanelli
- Parc Dŵr y Sandy
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
De-Orllewin Cymru
- Pellter:
13 milltir
- Amser sydd ei angen:
1.5 awr
- Dosbarthiad:
- Traffig:
Di-draffig
- Wyneb:
Tarmac
- Llwybr RhBC:
Llwybr Cenedlaethol 47
- Cychwyn:
Parc Dŵr y Sandy, Llanelli
- Gorffen:
Ger y sinema yn Cross Hands, rhwng Llanelli a Llandeilo
- Mynediad:
Gorsaf drên yn Llanelli
- Mapiau a llysrynnau:
-
Map Lôn Geltaidd Gorllewin NN4C £6.99
Arweinlyfr Lôn Geltaidd – £6.99
Taflen Llwybr Swiss Valley – Pdf am ddim
Taflen Lôn Geltaidd – Pdf am ddim
- Cysylltiadau Gyda:
Parc Arfordirol y Mileniwm i’r Ganolfan Adar Gwyllt a Gwlyptiroedd.
Parc Arfordirol y Mileniwm i Barc Gwledig Pembre a Chydweli.
- Tywydd:
-
Iau
uchaf: 15°C isaf: 9°C
-
Gwener
uchaf: 16°C isaf: 10°C
-
Sadwrn
uchaf: 18°C isaf: 7°C
-
Sul
uchaf: 15°C isaf: 6°C
Dewis llwybr arall

