Saundersfoot i Stepaside

Mae’r daith fer ac ysblennydd hon i ganol cyrchfan glan môr poblogaidd Saundersfoot yn mynd â chi o ddyffryn coediog tawel, ar hyd promenâd uchel uwchlaw tonnau gwyllt Bae Caerfyrddin a thrwy gyfres o dwneli byr sydd wedi eu cerfio i’r clogwyni; mae’r llwybr yn wastad ac mae wyneb da iddo ar ei hyd.
Mae’r daith yn dechrau yng Nghanolfan Treftadaeth y Gwaith Haearn yn Stepaside, lle mae digonedd o le i barcio, ac yn troelli ei ffordd drwy goed ar hyd ymyl y nant i’r traeth ym Mhont Wiseman. Yna mae’r llwybr yn troi ac yn dilyn y traeth ar hyd y promenâd a arferai gludo Rheilffordd Saundersfoot, a adeiladwyd yn wreiddiol i gludo haearn a glo ond sydd erbyn hyn yn brysur gyda cherddwyr a beicwyr yn mwynhau’r golygfeydd ysblennydd.
Wrth ddynesu at Saundersfoot mae’r llwybr yn mynd drwy dri thwnnel ac ar hyd y Strand i’r harbwr lle ceir y siopau, caffis a’r bwytai. Mae’r daith hon yn boblogaidd iawn gyda cherddwyr, yn arbennig yn yr haf, felly byddwch yn ystyrlon pan fyddwch yn rhannu’r llwybr a dewch oddi ar eich beic wrth fynd drwy’r twneli.
Atyniadau naturiol:
- Arfordir Bae Caerfyrddin
- Coedwig lydanddai
Atyniadau i ymwelwyr:
- Atyniadau glan môr Saundersfoot
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
Sylwadau (1)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Sir Benfro
- Pellter:
2.5 milltir un ffordd
- Amser sydd ei angen:
Llai nag un awr
- Dosbarthiad:
Hawdd
- Traffig:
Di-draffig. Adran fer ar y ffordd i gael lluniaeth yn Stepaside neu Pont Wiseman.
- Wyneb:
Tarmac / Graean
- Llwybr RhBC:
Llwybr Cenedlaethol 4
- Cychwyn:
Stepaside, ar ben gogleddol Cwmteg (Pleasant Valley).
- Gorffen:
Canolfan Groeso, Saundersfoot
- Llogi beiciau:
Cross Inn Stores, Broadmoor, Saundersfoot. Ffôn: 01834 813266.
- Mynediad:
Gorsaf drên yn Saundersfoot
- Mapiau a llysrynnau:
-
Lôn Geltaidd – Gorllewin RhC4C £6.99
- Tywydd:
-
Gwener
uchaf: 17°C isaf: 15°C
-
Sadwrn
uchaf: 17°C isaf: 13°C
-
Sul
uchaf: 15°C isaf: 14°C
-
Llun
uchaf: 17°C isaf: 15°C
Dewis llwybr arall


24/09/08, at 01:18 PM
A truly wonderful route. Best place to start is in Stepaside; parking your bike in Saundersfoot is much easier and cheaper than parking your car. Park at the Heritage car park, cross the bridge to the road and then right and the start of the route can be found on the right. The path is perfect for everyone including younger children with stabilisers and brings you out at the coast at Wisemans Bridge. Head across the road for the next section that takes you along National Route 4 into Saundersfoot through the old railway tunnels. The views all along this stretch are spectacular. There are plenty of cafes and restuarants for a cup of tea and an ice cream; the beach is also an option for a game of football or a picnic. Enjoy!