Nôl

Y Rhyl i Lanelwy

Rhyl

Gan ddechrau yn nhref arfordirol y Rhyl mae’r daith hon yn dilyn Afon Clwyd ac Elwy ar ben gogleddol Dyffryn Clwyd. Mae’r daith yn dechrau yn y Pentre Plant, sydd wedi ei leoli ar bromenâd y dref glan môr enwog hon, ac yn mynd i gyfeiriad Bae Cinmel.

Cyn i chi gyrraedd y Bont Las sy’n croesi Afon Clwyd wrth Harbwr y Foryd, rydych yn troi yn ôl ar eich hun i fynd heibio Marine Lake a’i reilffordd fach. Byddwch yn ofalus wrth groesi’r Bont-H ar y ffordd, ond yn fuan fe fyddwch yn ôl ar lwybrau di-draffig yng Nghoedwig Gymunedol Glan Morfa, gwarchodfa natur leol wedi’i gwasgu rhwng y Rhyl ac Afon Clwyd. Dilynwch y llwybr tua’r de i gyrraedd glannau Afon Clwyd gyda’i thoreth o adar a golygfeydd i lawr ar hyd Dyffryn Clwyd ac AHNE Mynyddoedd Clwyd ar eich lllaw chwith.

Yn Rhuddlan mae’n werth dargyfeirio ychydig er mwyn ymweld â’r castell ac mae gan y pentref hefyd amrywiaeth da o gaffis a siopau bach. Parhewch i Lanelwy gan redeg yn gyfochrog â’r ffordd fawr ac yna ymuno â’r llwybr glan afon ar hyd glannau Afon Elwy. Croeswch yr afon i’r parc am seibiant haeddiannol, neu parhewch i fyny’r allt i’r siopau, y caffis lleol a’r gadeirlan yn ninas leiaf Gogledd Cymru!

Mae hi hefyd yn bosibl ymestyn y daith hon drwy ddefnyddio’r ddolen i’r de o goedwig Glan Morfa a mynd am Bwll Brickfield, gwarchodfa natur leol gyda llwybr cylchol a taith gerfluniau.

Am ragor o wybodaeth gweler taflen Sir Ddinbych Sustrans.


Atyniadau naturiol:


Atyniadau i ymwelwyr:


  • Pentre Plant

  • Tŵr Awyr Rhyl

  • Marine Lake a rheilffordd fach

  • Castell Rhuddlan

  • Cadeirlan Llanelwy

Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans

Tagiau


Nôl i'r brig

Map o'r Llwybr


View Rhyl to St Asaph in a larger map

Sylwadau (0)

Please login or register to comment.

Nôl i'r brig

Manylion allweddol y llwybr

Rhanbarth/Ardal:

Gogledd-ddwyrain

Pellter:

7 milltir

Dosbarthiad:

Traffig:

Di-draffig

Wyneb:

Tarmac

Cychwyn:

Y Rhyl

Gorffen:

Llanelwedd

Mynediad:

Gorsaf reilffordd prif lein yn y Rhyl

Mapiau a llysrynnau:




ctguideTaflen Bwrdeistref Sirol Conwy – PDF am ddim

Tywydd:
Rain

Iau

uchaf: 16°C isaf: 7°C

Rain

Gwener

uchaf: 15°C isaf: 8°C

Chance of Rain

Sadwrn

uchaf: 19°C isaf: 7°C

Partly Sunny

Sul

uchaf: 17°C isaf: 7°C


Dewis llwybr arall
Sustrans