Resolfen i Lyn-nedd
Nid nepell o ardal Richard Burton, mae’r llwybr hamddenol hwn yn dilyn cyfuchliniau llwybr tynnu camlas o’r ddeunawfed ganrif a arferai, yn ei anterth, gludo glo a choed.
Mae rhannau o’r gamlas, a gaeodd ym 1934, yn cael eu hadnewyddu i’w hysblander blaenorol, a gellir gweld pobl yn eu badau lliwgar yn teithio’n hamddenol heibio. Mae’r gamlas yn gartref i ystod eang o rywogaethau o bysgod a bywyd pwll yn cynnwys y Warchen, Carp a’r Rhufell. Mae’r Dyfrgi, Glas y Dorlan a Llygoden y Dŵr wedi eu gweld yma hefyd.
Yn y llanerchi nid nepell o ddechrau’r daith mae Rhaeadr Melincwrt ysblennydd sy’n sefyll 86 troedfedd o uchder ac a arluniwyd unwaith gan yr artist Turner. Mae’r ardal yn faes bridio ffrwythlon ar gyfer rhedyn ac mae amrywiaeth eang i’w weld yn yr ardal. Hefyd yn y dyffryn gwelir adfywiad y diwydiant glo, gydag ailagor pyllau yn cynnwys Aberpergwm.
Yn agos i Resolfen hefyd mae Ystâd Rheola 120 erw, paradwys i bicnicwyr gyda llyn lle byddai, yn ôl haneswyr lleol, Twm Twm, neu Thomas Thomas, un o bysgotwyr plu gorau Cymru yn pysgota am frithyll gan ddefnyddio plu wedi eu gwisgo o’i ddillad ei hun neu blu adar. Mae Traphont Nant Rheola graddedig gradd II hefyd i’w gweld yma yn erbyn cefnlen o fryniau coediog gwych. Mae Pentreclwydau - a welir ar ddiwedd y llwybr - yn borth i’r dyfrffyrdd a’r rhaeadrau sy’n frith yn y dyffryn.
Gellir hefyd beicio/cerdded i’r cyfeiriad gwahanol o Resolfen, ac ymuno eto â llwybr tynnu’r gamlas tuag at Gastell-nedd.
Atyniadau naturiol:
- Rhaeadr Melincwrt
Atyniadau i ymwelwyr:
- Ystâd Rheola
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Resolven to Glyn-Neath in a larger map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
De Ddwyrain Cymru
- Pellter:
3.5 milltir
- Dosbarthiad:
Hawdd
- Traffig:
Di-draffig
- Wyneb:
Llwch
- Cychwyn:
Resolfen
- Gorffen:
Glyn-nedd
- Mynediad:
Gorsaf reilffordd Castell-nedd
- Tywydd:
-
Iau
uchaf: 18°C isaf: 8°C
-
Gwener
uchaf: 17°C isaf: 9°C
-
Sadwrn
uchaf: 21°C isaf: 8°C
-
Sul
uchaf: 18°C isaf: 6°C
Dewis llwybr arall

