Prestatyn i Dyserth
Mae’r llwybr byr hwn yn dilyn llwybr rheilffordd i mewn i’r tir mawr ac yn cynnwys golygfeydd trawiadol ar draws arfordir Gogledd Cymru.
Gan ddechrau wrth y cyn Ganolfan Clawdd Offa ar Lwybr Cenedlaethol 5, mae’r daith yn eich arwain i mewn i Brestatyn a heibio’r orsaf rheilffordd cyn ymuno â’r cyn reilffordd mwynau sy’n arwain i Ddyserth.
Defnyddir y llwybr hwn yn drwm gan bobl leol gan fod yn rhoi cysylltiadau i’r holl ardaloedd cyfagos, ond arhoswch ar y prif lwybr wrth iddo ddringo’n gyson tuag at bentref Gallt Melyd. Unwaith i chi fynd heibio’r clwb golff rydych yn cyrraedd golygfan lle ceir golygfeydd gwych dros Brestatyn a’r Rhyl gyda’r arfordir a mynyddoedd Eryri yn y cefndir.
Mae’r daith yn parhau ar hyd y llwybr rheilffordd hyd nes ei fod yn cyrraedd y ffordd ac mae angen dringo allt fer i fynd a chi i mewn i bentref Dyserth.
Am ragor o wybodaeth gweler taflen Sir Ddinbych.
Atyniadau naturiol:
- Arfordir a thraethau Gogledd Cymru
- Gwarchodfa Natur Twyni Gronant
- AHNE Mynyddoedd Clwyd
Atyniadau i ymwelwyr:
- Canolfan Nova
- Rhaeadrau Dyserth
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Prestatyn to Dyserth in a larger map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Gogledd-ddwyrain
- Pellter:
3 milltir
- Dosbarthiad:
Hawdd
- Traffig:
Di-draffig ac adran fach ar y ffordd
- Wyneb:
Tarmac a llwch
- Cychwyn:
Prestatyn
- Gorffen:
Dyserth
- Mynediad:
Gorsaf reilffordd prif lein ym Mhrestatyn.
- Mapiau a llysrynnau:
-
Taflen Bwrdeistref Sirol Conwy – PDF am ddim
- Tywydd:
-
Iau
uchaf: 16°C isaf: 7°C
-
Gwener
uchaf: 15°C isaf: 8°C
-
Sadwrn
uchaf: 19°C isaf: 7°C
-
Sul
uchaf: 17°C isaf: 7°C
Dewis llwybr arall

