Nôl

Porthmadog i Ddolgellau drwy'r Bermo neu Drawsfynydd

image

Gyda dewis o ddwy daith, sydd o’u cyfuno yn gwneud taith gylchol wych, mae’r adrannau hyn o Lôn Las Cymru yn mynd â chi drwy ganol Eryri, ac ar hyd adrannau o arfordir rhyfeddol Cymru.

O ddewis y daith arfordirol cewch weld Castell Harlech, croesi Pont y Bermo a theithio i fyny aber trawiadol Afon Mawddach.

Mae’r dewis mewndirol yn mynd â chi heibio i Drawsfynydd a thrwy Goedwig Coed y Brenin, gyda golygfeydd trawiadol o Gadair Idris a chopaon eraill Eryri.

Sylwer bod dewis taith Trawsfynydd yn defnyddio rhai ffyrdd coedwig, ac felly nid yw’n addas ar gyfer beiciau ffyrdd gydag olwynion/teiars cul.

Os ydych yn berson arbennig o anturus, beth am droi’r ddau ddewis yn un daith gylchol fawr.

I gael rhagor o wybodaeth gweler map beicio Lôn Las Cymru – Gogledd.


Atyniadau naturiol:


  • Arfordir Môr Iwerddon

  • Eryri

Atyniadau i ymwelwyr:


  • Rheilffordd Ffestiniog

  • Pont y Bermo

  • Castell Harlech

Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans

Tagiau


Nôl i'r brig

Map o'r Llwybr


View Porthmadog to Dolgellau in a larger map

Sylwadau (1)

  • 10/03/10,  at  05:21 PM

    Great route, especially as a circular. Stop for a few hours at Dolgellau for great food or a bit of musical culture at Ty Siamas the National Centre for Folk Music

  • Page 1 of 1 pages

Please login or register to comment.

Nôl i'r brig

Manylion allweddol y llwybr

Rhanbarth/Ardal:

Gogledd-orllewin

Pellter:

35 - 40 miltir

Dosbarthiad:

Traffig:

Ar ffyrdd tawel yn bennaf

Wyneb:

Tarmac

Llwybr RhBC:

8

Cychwyn:

Porthmadog

Gorffen:

Dolgellau

Mynediad:

Gorsafoedd trên yn y Bermo a Phorthmadog

Mapiau a llysrynnau:





nn4bMap Lôn Las Cymru GogleddNN8B £6.99

ctguideArweinlyfr Lôn Las Cymru – £6.99

Tywydd:
Rain

Iau

uchaf: 14°C isaf: 6°C

Rain

Gwener

uchaf: 12°C isaf: 7°C

Chance of Rain

Sadwrn

uchaf: 15°C isaf: 7°C

Mostly Sunny

Sul

uchaf: 13°C isaf: 3°C


Dewis llwybr arall
Sustrans