Nôl

Port Talbot i Gydweli

image

Mae’n bosibl mae hon yw’r adran hiraf o lwybr di-draffig di-dor ar y RhBC.  O’r 42 milltir, dim ond 5 milltir sydd ar ffyrdd tawel, gyda’r gweddill ar lwybrau di-draffig wedi eu hadeiladu at y diben.

Mae’r adran hon o’r Lôn Geltaidd yn un o wrthgyferbyniadau llwyr.  Rhwng Port Talbot ac Abertawe mae’r llwybr yn nadreddu drwy beth o’r dirwedd ddiwydiannol sy’n parhau i fodoli yng Nghymru a thirwedd trefol, rhwng Abertawe a Thre-gŵyr fe gewch brofi coedwig gaeedig a dinas ger y môr, ac yn olaf Llwybr Arfordirol y Mileniwm a Pharc Gwledig Pembre sy’n dangos ochr fwy gwyllt arfordiroedd Cymru, gyda digonedd o dwyni tywod a gofodau agored.

O Bort Talbot, teithiwch ar hyd promenâd Aberafan, dros hen bont Llansawel. Byddwch yn mynd heibio ardal sy’n ailddatblygu’n raddol ger Jersey Marine ar y ffordd i mewn i Abertawe, cyn mynd ar Lwybrau Beicio Glan y Môr Abertawe a Chwm Clun.

Pan fyddwch wedi teithio hanner y ffordd byddwch yn mynd trwy Dre-gŵyr, cyn cysylltu draw i Lwybr Arfordirol y Mileniwm a aiff a chi heibio i Lanelli a Burry Port. Daw’r daith i ben gyda thaith drwy Barc Gwledig Pembre.


Atyniadau naturiol:


  • Arfordir De Cymru

Atyniadau i ymwelwyr:


  • Arsyllfa Abertawe

  • Canolfan Adar y Gwlyptir

  • Canolfan Ymwelwyr Parc Arfordirol y Mileniwm

Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans

Tagiau


Nôl i'r brig

Map o'r Llwybr


View Port Talbot to Kidwelly in a larger map

Sylwadau (0)

Please login or register to comment.

Nôl i'r brig

Manylion allweddol y llwybr

Rhanbarth/Ardal:

De Orllewin Cymru

Pellter:

42 milltir

Dosbarthiad:

Traffig:

Di-draffig yn bennaf

Wyneb:

Cymysg

Llwybr RhBC:

4

Cychwyn:

Port Talbot

Gorffen:

Cydweli

Mynediad:

Mae nifer o orsafoedd rheilffordd ar y daith, neu yn agos iddi.

Mapiau a llysrynnau:






nn4bMap Lôn Geltaidd Dwyrain NN4B £6.99

nn4cMap Lôn Geltaidd Gorllewin NN4C £6.99

ctguideArweinlyfr Lôn Geltaidd – £6.99


Dewis llwybr arall
Sustrans