Nôl

Llwybr yr Hebog

image

Gan ddechrau yn nhref farchnad hanesyddol Trefynwy - man geni Harri’r V - mae’r llwybr hwn fel petai wedi ei godi allan o lyfr storïau i blant. Mae cymaint i’w weld yn y dref hon sy’n frith o hen dafarndai, siopau llawn cymeriad a safleoedd treftadaeth yn cynnwys adfeilion castell.

O Drefynwy bydd y llwybr yn mynd â chi heibio’r Kymin, man picnic poblogaidd wedi ei leoli mewn naw erw o barcdir bendigedig gyda golygfeydd panoramig ar draws Cymru.

Mentrwch ymlaen i Geunant Gwy gydag Afon Gwy a’i eogiaid niferus yn rhedeg drwy’r canol ac fe ddewch i mewn i bentref poblogaidd Symonds Yat East ar ochr Swydd Gaerloyw o’r afon. Yma ceir canolfan llogi canĊµod a thafarndai croesawgar - yn cynnwys tafarn y Saracens Head. Mae’r ardal hefyd yn borth ar gyfer dringfa raddol i Graig Symonds Yat lle gellir gweld Hebogiaid Tramor yn nythu.

Ychydig oddi ar y llwybr arferol yn The Doward gallwch ymweld ag Ogof y Brenin Arthur, y dywedwyd iddi unwaith fod yn gartref i ddynion Palaeolithig. Mae arfau a wnaed o fflint ac olion Mamoth gwlanog wedi eu darganfod gerllaw ond erbyn hyn mae’r ogof yn gartref i ddim ond nifer o bryfed ac anifeiliaid, yn cynnwys ystlumod.

Reidiwch yma ac acw ar isffordd ac ar gopa bryn coediog gallwch ryfeddu ar Gastell Goodrich ysblennydd. Mae gan y castell, sy’n dyddio’n ôl i’r unfed ganrif ar ddeg, ganolfan ymwelwyr sy’n nodi ei hanes hyd ei gwymp yn ystod y Rhyfel Cartref yn Lloegr ym 1646. Darganfuwyd canonau yn dyddio’n ôl i’r Rhyfel Cartref yma yn y 1920au ac maent yn cael eu harddangos.


Atyniadau naturiol:


  • Afon a Cheunant Gwy

  • Craig Symonds Yat

  • Ogof y Brenin Arthur

  • Hebogiaid Glas

Atyniadau i ymwelwyr:


  • Castell Goodrich

  • Tref Trefynwy a Castell

Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans

Tagiau


Nôl i'r brig

Map o'r Llwybr


View Peregrine Path in a larger map

Sylwadau (0)

Please login or register to comment.

Nôl i'r brig

Manylion allweddol y llwybr

Rhanbarth/Ardal:

De Ddwyrain Cymru

Pellter:

5 - 8 milltir

Dosbarthiad:

Hawdd

Traffig:

Di-draffig yn bennaf ond rhai isffyrdd

Wyneb:

Tarmac

Llwybr RhBC:

423

Cychwyn:

Trefynwy

Gorffen:

Goodrich

Llogi beiciau:

Pedalabikeaway, Cannop, Coleford

Mapiau a llysrynnau:







ctguideTaflen Llwybr yr Hebog – PDF am ddim


Dewis llwybr arall
Sustrans