Cymru yn yr Awyr Agored
Cofiwch y Cod Cefn Gwlad cyn mynd...
Mwynhewch Gymru yn yr awyr agored – yn gyfrifol!
Mae gan bawb yr hawl i fod ar y rhan fwyaf o dir a dŵr mewndirol cyn belled â’u bod yn ymddwyn yn gyfrifol. Caiff eich hawliau a’ch cyfrifoldebau mynediad eu hesbonio’n llawn yn y Cod Cefn Gwlad.
Os ydych yn yr awyr agored neu’n rheoli’r awyr agored, y prif bethau yw:
- bod yn gyfrifol am eich gweithredoedd eich hun;
- parchu buddiannau pobol eraill;
- gofalu am yr amgylchedd.
Gallwch gael gwybod mwy drwy fynd i http://www.codcefngwlad.org.uk neu drwy gysylltu â Chyngor Cefn Gwlad Cymru ar www.ccw.gov.uk

