Llwybr Cwm Ogwr: Abercynffig i Nant-y-moel

Gan ddechrau ar riw ysgafn yn arwain allan o Abercynffig, un o faestrefi Pen-y-bont ar Ogwr, mae’r llwybr hwn yn mynd â chi ar hyd llawr y dyffryn lle mae afonydd Llynfi ac Ogwr yn cwrdd. Heb gar yn y golwg ac yn weddol wastad, dyma gyfle i gael tawelwch a cherdded neu feicio drwy goetir sydd byth yn rhy bell oddi wrth y llwybr arferol.
Mae rhagfuriau rheilffordd rhydlyd sydd i’w gweld ar y daith yn dyst i orffennol locomotif gwych pan oedd Rheilffordd Cwm Ogwr yn cludo llwythi enfawr o lo rhwng tref glan y môr Porthcawl a Nant-y-moel.
Heibio i dref Bryncethin mae’r llwybr yn parhau ar yr A4061 ac ymlaen i Fro Ogwr drwy Heol y Fynwent, Dim ond cymuned fechan o ffermwyr oedd Bro Ogwr hyd at 1865 pan adeiladwyd y rheilffordd. Gellir ymweld â Gwalia Stores y pentref, a adeiladwyd ym 1880, yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan yng Nghaerdydd wedi iddi gael ei symud yno fesul carreg.
O’r diwedd cyrhaeddir hen dref lofaol Nant-y-moel. Yma y treuliodd Lynn the Leap - enillydd medal aur am y naid hir yng Ngemau Olympaidd Tokyo 1964 - ei blentyndod. Yma hefyd mae hen neuadd y Gweithwyr Nant-y-moel sydd erbyn hyn yn theatr gelf. I’r rheiny sydd am ymestyn eu taith, dechreuwch ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Gellir hefyd cysylltu llwybr Cwm Ogwr gyda llwybrau di-draffig Cwm Garw ac adran o Lwybr Beicio Cenedlaethol 4 i Fynydd Cynffig.
Atyniadau naturiol:
- Afon Ogwr
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Aberkenfig to Nant-y-Moel in a larger map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Cymoedd De Cymru
- Pellter:
7 milltir
- Dosbarthiad:
- Traffig:
Di-draffig
- Wyneb:
Tarmac
- Llwybr RhBC:
4
- Cychwyn:
Abercynffig
- Gorffen:
Nant-y-Moel
- Mynediad:
Gorsafoedd rheilffordd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Sarn a Thondu
- Mapiau a llysrynnau:
-
Map Lôn Geltaidd Dwyrain NN4B £6.99
Arweinlyfr Lôn Geltaidd – £6.99
Taflen Lôn Geltaidd – Pdf am ddim
- Tywydd:
-
Iau
uchaf: 14°C isaf: 9°C
-
Gwener
uchaf: 14°C isaf: 10°C
-
Sadwrn
uchaf: 17°C isaf: 9°C
-
Sul
uchaf: 15°C isaf: 7°C
Dewis llwybr arall

