Glan yr Afon Y Drenewydd

Mae’r daith fer hon yn dilyn Afon Hafren ac yn defnyddio rhai adrannau o Gamlas Trefaldwyn wrth iddi adael Y Drenewydd ar y daith i gyfeiriad Y Trallwng.
Mae enw’r daith yn sicr yn awgrymu beth y gellid ei ddisgwyl, gyda llwybr glan afon nodweddiadol sy’n ddi-draffig yn bennaf ac yn llawn bywyd gwyllt.
Mae’r llwybr hefyd yn dilyn adrannau o gamlas Trefaldwyn, gan fynd â chi oddi wrth yr afon ond yn cynnig golygfeydd ardderchog ohoni. Er bod rhai adrannau o’r gamlas wedi eu llenwi erbyn hyn mae rhan o’r gamlas yn parhau’n ddyfrffordd gan roi cipdrem ardderchog yn ôl i’r gorffennol.
Yn ogystal â’r bywyd gwyllt y gellir ei weld ar hyd y daith gyfan, rydych hefyd yn mynd heibio i Warchodfa Natur Pwll Penarth sy’n lle ardderchog i aros os byddwch am dorri ar y daith.
Mae’r daith i fod i gael ei hymestyn ar hyd y gamlas i bentref Aber-miwl lle ceir dewis o dafarndai sy’n cynnig diod i ddisychedu unrhyw feiciwr!
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Newtown Riverside in a larger map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Canolbarth Cymru
- Pellter:
3 milltir
- Dosbarthiad:
Hawdd
- Traffig:
Di-draffig
- Wyneb:
Tarmac
- Cychwyn:
Y Drenewydd
- Gorffen:
Aberbechan
- Mynediad:
Gorsaf reilffordd y Drenewydd
- Mapiau a llysrynnau:
-
Taflen Map Beicio y Drenewydd – PDF am ddim
- Tywydd:
-
Iau
uchaf: 15°C isaf: 7°C
-
Gwener
uchaf: 14°C isaf: 8°C
-
Sadwrn
uchaf: 16°C isaf: 7°C
-
Sul
uchaf: 17°C isaf: 6°C
Dewis llwybr arall

