Nôl

Casnewydd i Gaerdydd ar hyd y Lôn Geltaidd a Thaith Taf

image

Mae dewis o ddau lwybr: mae un yn fyrrach ond gyda mwy o ffyrdd, a’r llall yn hwy ond yn bennaf ddi-draffig.

Mae’r llwybr hiraf yn cynnwys Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, gan fynd heibio i Fourteen Locks, cyn mynd i mewn i Barc Gwledig Dyffryn Sirhywi, dros Draphont Hengoed, drwy Barc Gwledig Penallta ac i Daith Taf drwy Bontypridd, gan fynd heibio i Gastell Coch ar y ffordd i mewn i Gaerdydd.

Mae’r dewis byrrach yn mynd heibio i Dŷ Tredegar ychydig tu allan i Gasnewydd, Castell Caerffili a Llwybr Glan yr Afon, ac yna’n mynd heibio i Gastell Coch ar Daith Taf.

Mae rhwydwaith rheilffordd y Cymoedd yn golygu bod gwahanol gyfleoedd i roi’r gorau iddi ar y ddau lwybr, gan olygu hefyd gwahanol fannau cychwyn ar gyfer teithiau byrrach i Gaerdydd.

Atyniadau i ymwelwyr:


  • Traphont Hengoed

  • Canolfan Ddringo Rhyngwladol Cymru

  • Castell Coch

  • Fourteen Locks

  • Canolfan Ymwelwyr Coedwig Cwmcarn

Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans

Tagiau


Nôl i'r brig

Map o'r Llwybr


Sylwadau (0)

Please login or register to comment.

Nôl i'r brig

Manylion allweddol y llwybr

Rhanbarth/Ardal:

De Ddwyrain Cymru

Pellter:

29 - 38 milltir

Dosbarthiad:

Traffig:

Digonedd yn ddi-draffig, ond nifer sylweddol o adrannau ar y ffordd yn dibynnu ar eich dewis.

Wyneb:

Cymysg

Llwybr RhBC:

8, 4, 47

Cychwyn:

Casnewydd

Gorffen:

Caerdydd

Mynediad:

Gorsafoedd rheilffordd yng Nghasnewydd, Caerdydd, ac amrywiaeth o orsafoedd ar lein y Cymoedd.

Mapiau a llysrynnau:




nn4bMap Lôn Geltaidd Dwyrain NN4B £6.99

ctguideArweinlyfr Lôn Geltaidd – £6.99

Tywydd:
Chance of Rain

Sadwrn

uchaf: 7°C isaf: 2°C

Partly Sunny

Sul

uchaf: 5°C isaf: 1°C

Fog

Llun

uchaf: 8°C isaf: 1°C

Fog

Mawrth

uchaf: 3°C isaf: -1°C


Dewis llwybr arall
Sustrans