Parc Arfordirol y Mileniwm

Gan deithio tua’r gorllewin o’r Ganolfan Ddarganfod ger Doc y Gogledd yn Llanelli ar hyd un o adrannau gorau’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig.
Mae dros ddwy flynedd o waith, gan ddefnyddio offer symud tir anferthol, wedi creu parc arfordirol gwych ar safle a arferai fod yn ardal ôl-ddiwydiannol adfeiliog. Mae’r gwaith gwych yn cynnwys dwy bont bridd wobrwyedig dros y brif linell reilffordd.
Mae’r adran hon yn un o adrannau mwyaf poblogaidd y Lôn Geltaidd, llwybr hir sy’n rhedeg o Sir Benfro i Gas-gwent.
Mwynhewch y golygfeydd ysblennydd ar draws Benrhyn Gŵyr, ewch o amgylch y marina newydd ym Mhorth Tywyn a chyn hir byddwch ar gyrion coetir tywodlyd Coedwig Pembre, lle y ceir nifer o draciau i chi eu harchwilio, wedi eu lleoli o gwmpas Canolfan Ymwelwyr y Parc Gwledig.
Atyniadau naturiol:
- Golygfeydd o Benrhyn Gŵyr
- Twyni Pembre
Atyniadau i ymwelwyr:
- Y Ganolfan Ddarganfod, Llanelli
- Parc Gwledig Pembre
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
De-Orllewin Cymru
- Pellter:
6 milltir
- Amser sydd ei angen:
1 awr
- Dosbarthiad:
Hawdd
- Traffig:
Di-draffig
- Wyneb:
Cymysg
- Llwybr RhBC:
Llwybr Cenedlaethol 4
- Cychwyn:
Y Ganolfan Ddarganfod, Doc y Gogledd, Llanelli
- Gorffen:
Parc Gwledig Pembre
- Llogi beiciau:
Parc Gwledig Pembre. Ffôn: 01554 834443.
- Mynediad:
Gorsafoedd trên yn Llanelli, Porth Tywyn, Cydweli.
- Mapiau a llysrynnau:
-
Map Lôn Geltaidd Gorllewin NN4C £6.99
Arweinlyfr Lôn Geltaidd – £6.99
Taflen Lôn Geltaidd – Pdf am ddim
- Tywydd:
-
Iau
uchaf: 15°C isaf: 8°C
-
Gwener
uchaf: 15°C isaf: 9°C
-
Sadwrn
uchaf: 14°C isaf: 9°C
-
Sul
uchaf: 17°C isaf: 8°C
Dewis llwybr arall

