Lôn Las Cefni: Ynys Môn

Gan ddechrau ym mhentref Malltraeth a’i leoliad hyfryd yng nghornel de orllewinol yr ynys, mae’r llwybr yn mynd ar hyd Cors Malltraeth i Bont y Marcwis lle mae’r llwybr di-draffig yn dechrau. Mae’r adran hon o’r llwybr bron yn dair milltir o hyd mewn llinell hollol syth, felly gwae chi pan fydd y gwynt yn eich erbyn!
Ar ôl croesi dros yr A5 ac o dan gefnffordd yr A55, mae’r daith yn croesi lein rheilffordd segur Cangen Amlwch cyn mynd ymlaen i Langefni ar hyd glan Afon Cefni. Ceir digon o fannau i fwyta a chael cyflenwadau yn yr hen dref farchnad hon cyn parhau ar y daith i gyfeiriad y gogledd.
Mae’r daith yn eich arwain i warchodfa natur leol Nant y Pandy sydd â llwybrau estyllod ychwanegol a cherfluniau i gyfoethogi’r daith. Wedi mynd dan lein Cangen Amlwch byddwch wedyn yn beicio uwchben Afon Cefni ar lwybr estyllod trawiadol cyn cyrraedd glan Llyn Cefni, cronfa ddŵr a gwarchodfa natur leol. Wrth argae’r gronfa gallwch fynd i gyfeiriad y dwyrain i gysylltu â Llwybr Cenedlaethol 5 neu fynd am y gorllewin i orffen y daith ym mhentref Bodffordd.
O bentref Malltraeth mae’n bosibl teithio i’r cyfeiriad arall ar draws Cob Malltraeth i Goedwig Niwbwrch. Mae Lôn Las Cefni yn rhedeg drwy’r goedwig, sy’n enwog am ei phoblogaeth o wiwerod coch, i bentref Niwbwrch, neu gallwch barcio eich beic a mynd i draeth Niwbwrch.
Am ragor o wybodaeth gweler map beicio Lôn Las Cymru - Gogledd neu daflen Teithiau Beicio Gwledig yn Ynys Môn.
Atyniadau naturiol:
- Môr Iwerddon
- Eryri yn gefnlen
- Gwarchodfeydd natur lleol
Atyniadau i ymwelwyr:
- Coedwig Niwbwrch
- Cronfa Ddŵr Cefni
- Oriel Ynys Môn
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Lon Las Cefni: Anglesey in a larger map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Gogledd-orllewin
- Pellter:
11 milltir
- Dosbarthiad:
- Traffig:
Di-draffig yn bennaf
- Wyneb:
Cymysg
- Cychwyn:
Malltraeth
- Gorffen:
Cronfa Ddŵr Cenfi
- Mapiau a llysrynnau:
-
Map Lôn Las Cymru GogleddNN8B £6.99
Arweinlyfr Lôn Las Cymru – £6.99
- Tywydd:
-
Iau
uchaf: 14°C isaf: 8°C
-
Gwener
uchaf: 13°C isaf: 8°C
-
Sadwrn
uchaf: 14°C isaf: 6°C
-
Sul
uchaf: 15°C isaf: 6°C
Dewis llwybr arall

