Lôn Eifion o Gaernarfon i'r de i Fryncir
Mae’r llwybr rheilffordd hir hwn yn cychwyn ger y castell atmosfferig yng Nghaernarfon ac yn dringo i’r de ochr yn ochr â Rheilffordd Ucheldir Cymru heibio Llanwnda a Phenygroes i’r Bryncir gyda golygfeydd gwych i’r gorllewin dros Fae Caernarfon ac i’r dwyrain tuag at Eryri.
Mae Caernarfon yn gorwedd yng nghysgod tyrau a bylchfuriau’r castell mawreddog, a adeiladwyd gan Edward I yn y drydedd ganrif ar deg er mwyn rheoli’r fynedfa i Afon Menai. Cafodd ei dyrau amlonglog unigryw, bylchfuriau brawychus a’i furiau bandiau lliw eu cynllunio i adlewyrchu Caer Gystennyn, grym imperialaidd Rhufain a’r castell delfrydol harddaf a welwyd erioed o fytholeg a chwedloniaeth Cymru. Ym 1969 daeth y castell yn enwog drwy’r byd fel y lleoliad ar gyfer arwisgo’r Tywysog Siarl yn Dywysog Cymru.
Cyrhaeddir pwynt uchaf Lôn Eifion wedi bron i 500 troedfedd o ddringo, ychydig islaw mast radio, tua dwy filltir i’r de o Benygroes. Mae’r llwybr yn rhan o Lwybr 8 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, a adwaenir fel Lôn Las Cymru, sy’n cysylltu Caergybi gyda Chaerdydd. Efallai y byddwch am dorri eich siwrnai drwy ymweld â Gwaith Llechi Inigo Jones yn y Groeslon, tua 4 milltir i’r de o Gaernarfon, i gael gweld crefftwyr yn torri, siapio a llathru slabiau llechi crai yn gynhyrchion masnachol megis grisiau, wynebau gweithio cegin a nifer o eitemau crefft. Mae caffi yno hefyd.
Atyniadau naturiol:
- Golygfeydd o Eryri
Atyniadau i ymwelwyr:
- Castell Caernarfon
- Rheilffordd Ucheldir Cymru
- Gwaith Llechi Inigo Jones
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Gogledd-orllewin
- Pellter:
12 milltir
- Amser sydd ei angen:
1.5
- Dosbarthiad:
- Traffig:
Cwbl di-draffig
- Wyneb:
Cymysg
- Llwybr RhBC:
Llwybr Cenedlaethol 8
- Cychwyn:
Castell Caernarfon
- Gorffen:
Bryncir
- Llogi beiciau:
Beics Menai, Caernarfon. Ffôn: 01286 676804 www.beicsmenai.co.uk
- Mynediad:
Gorsafoedd trên ym Mangor a Criccieth
- Mapiau a llysrynnau:
-
Map Lôn Las Cymru Gogledd NN8B £6.99
Arweinlyfr Lôn Las Cymru – £6.99
- Cysylltiadau Gyda:
Lôn Las Menai o Gaernarfon i’r Felinheli
- Tywydd:
-
Iau
uchaf: 14°C isaf: 6°C
-
Gwener
uchaf: 12°C isaf: 7°C
-
Sadwrn
uchaf: 15°C isaf: 7°C
-
Sul
uchaf: 13°C isaf: 3°C
Dewis llwybr arall

