Nôl

Lôn Cambria: Aberystwyth i'r Amwythig

Lôn Cambria: Aberystwyth to Shrewsbury

Mae Lôn Cambria yn croesi calon harddwych Canolbarth Cymru drwy fynyddoedd Cambria, ar hyd llwybr 113 milltir o’r arfordir yn Aberystwyth i dref hanesyddol Amwythig ar y ffin.

Gan adael Aberystwyth, tref glan môr o gyfnod Victoria, mae’r llwybr yn dilyn yr Afon Ystwyth ar hyd llawr y dyffryn ac yna’n dringo’n serth i Bont-rhyd-y-groes ac yn ymuno â’r ffordd fynydd drawiadol ac anghysbell i’r dwyrain o Gwmystwyth. Yn ei thro mae hon yn arwain ar ddisgynfa drawiadol ar Lwybr Cwm Elan di-draffig ar hyd cronfeydd dŵr hardd Cwm Elan i dref Rhaeadr Gwy.

Dilynir Lôn Las Cymru (Llwybr 8 Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol) i’r gogledd ar lôn â chlwydi hyfryd o dawel sy’n rhedeg yn gyfochrog a’r Afon Wy i Langurig. Croesir y wahanfa ddŵr wrth i chi fynd heibio Dyffryn Gwy i Ddyffryn Hafren i’r gogledd o Langurig, gan ddisgyn i lawr i Lanidloes lle mae Lôn Las Cymru yn troi i’r gogledd orllewin tuag at Fachynlleth a Lôn Cambria yn parhau i’r gogledd ddwyrain i Gaersws. Wedi Caersws ceir un o’r dringfeydd mwyaf serth y llwybr, felly gwnewch y gorau o’r adran wastad, ddi-draffig ar hyd llwybr Camlas Brycheiniog drwy’r Drenewydd cyn ymuno â rhwydwaith o lonydd tawel i’r Trallwng.

Mae’r ddringfa olaf ar y Ffordd Rufeinig dros y Mynydd Hir yn rhoi golygfeydd panoramig cyn disgyn drwy’r dolydd glan yr afon i dref marchnad Amwythig gyda’i chysylltiadau rheilffordd a’r siwrnai adref. Mae Llwybr 81 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn parhau i’r dwyrain drwy Swydd Amwythig i Wolverhampton a Birmingham.


Atyniadau naturiol:


  • Cwm Ystwyth

  • Mynyddoedd Cambria

  • Cronfeydd Dŵr Cwm Elan

Atyniadau i ymwelwyr:


  • Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth

  • Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan

Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans

Tagiau


Nôl i'r brig

Map o'r Llwybr


Sylwadau (1)

  • 16/09/08,  at  11:28 PM

    I am a liasion ranger for route 81(Lon Cambria) and would be pleased to receive any comments from people who have used the route. I have produced an accomodation list for the route and could e-mail it to anybody who would like it. My e-mail is brettk@fsmail.net

  • Page 1 of 1 pages

Please login or register to comment.

Nôl i'r brig

Manylion allweddol y llwybr

Rhanbarth/Ardal:

Canolbarth Cymru

Pellter:

113 milltir

Amser sydd ei angen:

2-3 diwrnod

Dosbarthiad:

Wyneb:

Cymysg

Llwybr RhBC:

Llwybr Cenedlaethol 81

Cychwyn:

Aberystwyth

Gorffen:

Amwythig

Mynediad:

Gorsafoedd trên yn Aberystwyth, Caersws, Y Drenewydd, Y Trallwng a'r Amwythig.

Mapiau a llysrynnau:




nn4bLôn Cambria & Lôn Teifi NN81 £6.99

ctguideArweinlyfr Lôn Cambria & Lôn Teifi – £6.99

Cysylltiadau Gyda:

Lôn Teifi ym Mhont-rhyd-y-groes i’r de ddwyrain o Aberystwyth.

Lôn Las Cymru rhwng Rhaeadr Gwy a Llanidloes.


Tywydd:
Chance of Rain

Iau

uchaf: 14°C isaf: 8°C

Chance of Rain

Gwener

uchaf: 14°C isaf: 9°C

Partly Sunny

Sadwrn

uchaf: 13°C isaf: 9°C

Mostly Sunny

Sul

uchaf: 13°C isaf: 7°C


Dewis llwybr arall
Sustrans