Nôl

Llandudno i Gonwy

Llandudno to Conwy

Mae gan y daith hon un o gefnlenni gorau’r wlad - i’r gogledd, mae Pen y Gogarth yn codi i 679 troedfedd ac mae silffoedd ei glogwyni yn fannau nythu ar gyfer sawl rhywogaeth adar y môr. I’r de orllewin ar draws Bae Conwy mae’n edrych fel petai copaon uchel Eryri yn codi’n syth allan o’r dŵr ac wrth i chi ddynesu at Gonwy caiff y blaendir ei lenwi gan farina’r dref a chastell gwych Edward I, sy’n swatio yng nghesail y bryniau dramatig.

Conwy yw un o’r trefi caerog gorau ei gyflwr ym Mhrydain gyda’i furfylchau a’i byrth cul. Mae dros 200 o adeiladau rhestredig yn y dref yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Noder: I’r de o’r maes parcio yn agos i’r man cychwyn yn Llandudno mae sawl adran fer lle y gallai tywod fod wedi chwythu ar draws y llwybr o’r twyni cyfagos. Mewn rhai achosion mae’r tir yn feddal iawn a bydd angen i chi ddod oddi ar eich beic a’i wthio. Nid oes yr un o’r adrannau hyn yn hir ac mae’r llwybr yn gwella’n fuan. Peidiwch â rhuthro a mwynhewch y golygfeydd!


Atyniadau naturiol:


  • Pen y Gogarth

  • Arfordir Bae Conwy

  • Golygfeydd tuag at Eryri

Atyniadau i ymwelwyr:


  • Tref glan môr Llandudno

  • Castell Conwy

  • Adeiladau canoloesol Conwy

Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans

Tagiau


Nôl i'r brig

Map o'r Llwybr


Sylwadau (0)

Please login or register to comment.

Nôl i'r brig

Manylion allweddol y llwybr

Rhanbarth/Ardal:

Gogledd-ddwyrain

Pellter:

4 milltir

Amser sydd ei angen:

0.5 awr

Dosbarthiad:

Hawdd

Traffig:

Di-draffig gydag adran fer ar y ffordd i ganol Conwy

Wyneb:

Cymysg

Llwybr RhBC:

Llwybr Cenedlaethol 5

Cychwyn:

Maes parcio Traeth y Gorllewin ar ochr orllewinol Llandudno

Gorffen:

Castell Conwy

Llogi beiciau:

Snowdonia Cycle Hire, Llandudno. Ffôn: 01492 878771

Mynediad:

Gorsafoedd trên yn Llandudno a Chonwy

Mapiau a llysrynnau:




conwyTaflen Bwrdeistref Sirol Conwy – PDF am ddim

Cysylltiadau Gyda:

Mae’r llwybr di-draffig agosaf i’r dwyrain o Landudno, o Landrillo yn Rhos i Brestatyn

Tywydd:
Rain

Iau

uchaf: 16°C isaf: 7°C

Rain

Gwener

uchaf: 15°C isaf: 8°C

Chance of Rain

Sadwrn

uchaf: 19°C isaf: 7°C

Partly Sunny

Sul

uchaf: 17°C isaf: 7°C


Dewis llwybr arall
Sustrans