Nôl

Traphont Hengoed i Taf Bargoed

Hengoed Viaduct to Taff Bargoed

Mae’r daith, sy’n cychwyn ychydig filltiroedd i’r gogledd o Gaerffili, yn dringo’n araf o Draphont Hengoed drwy Nelson a Threlewis i’r ganolfan ddringo yn Nhaf Bargoed.

Dathlir Traphont urddasol Hengoed, sy’n croesi’r Afon Rhymni, gyda’i gwaith celf ‘Olwyn Dramiau’ gwych.

Am lawer o’i hyd mae’r llwybr yn rhedeg yn gyfochrog â llinell reilffordd ar lwybrau beicio sydd wedi eu hadeiladu’n arbennig. Ar y daith fe geir ardaloedd mawr o dir newydd ei dirweddu, wedi ei adfywio o’r hen weithiau diwydiannol. Mae dringfa fer ond serth o Drelewis i fyny cyfres o adrannau igam ogam gan fynd â chi heibio i’r Cascades, nodwedd ddŵr ddramatig sy’n cludo’r afon Taf Bargoed i lawr y dyffryn ac o dan bont droed urddasol dros yr afon.

Wrth i chi ddynesu at y ganolfan ddringo byddwch yn mynd heibio i gyfres o welyau cyrs newydd eu plannu sydd wedi llwyddo i leihau gan 79% yr ocr haearn oedd gynt yn staenio’r afon yn goch ac yn peri problemau difrifol i fywyd gwyllt dyfrol. Byddwch hefyd yn mynd heibio i gyfres o fyrddau arddangos gyda manylion yr hen wythiennau glo a weithiwyd drwy’r cwm.

Mae caffi yn y ganolfan ddringo. Mae’n hawdd ymestyn y daith er mwyn reidio naill ai i’r gorllewin drwy Fynwent y Crynwyr er mwyn cysylltu i Daith Taf neu i’r dwyrain o Hengoed i Wyllie a dechrau’r llwybr drwy Barc Gwledig Dyffryn Sirhowy.


Atyniadau naturiol:


  • Y Cwm o Taf Bargoed

Atyniadau i ymwelwyr:


  • Traphont Hengoed

  • Canolfan Ddringo Taf Bargoed

Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans

Tagiau


Nôl i'r brig

Map o'r Llwybr


Sylwadau (0)

Please login or register to comment.

Nôl i'r brig

Manylion allweddol y llwybr

Rhanbarth/Ardal:

Cymoedd De Cymru

Pellter:

6 milltir

Amser sydd ei angen:

1 awr

Dosbarthiad:

Traffig:

Di-draffig

Wyneb:

Cymysg

Llwybr RhBC:

Llwybr Cenedlaethol 47

Cychwyn:

Traphont Hengoed, Ystrad Mynach, i'r gogledd o Gaerffili

Gorffen:

Canolfan Ddringo Taf Bargoed, i'r gogledd o Drelewis.

Llogi beiciau:

Yr agosaf yng Nghaerdydd

Mynediad:

Gorsaf drên yn Hengoed

Mapiau a llysrynnau:








nn4bMap Lôn Geltaidd Dwyrain NN4B £6.99

ctguideArweinlyfr Lôn Geltaidd – £6.99
ctguideTaflen Lôn Geltaidd – Pdf am ddim

Cysylltiadau Gyda:

Dyffryn Sirhowy

Taith Taf ym Mynwent y Crynwyr


Tywydd:
Chance of Rain

Iau

uchaf: 17°C isaf: 8°C

Chance of Rain

Gwener

uchaf: 18°C isaf: 9°C

Chance of Rain

Sadwrn

uchaf: 20°C isaf: 8°C

Chance of Rain

Sul

uchaf: 17°C isaf: 8°C


Dewis llwybr arall
Sustrans