Nôl

Cod beicio da

Byddwch yn ddiogel, byddwch yn gwrtais a mwynhewch eich beicio ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol

Mae'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn cynnig 10,000 milltir o lwybrau beicio, yn rhedeg drwy ganol canolfannau trefol ac yn cyrraedd pob rhan o'r DU.

Bwriad y Rhwydwaith yw annog pobl i ddechrau beicio eto a bod yn adnodd diogel a deniadol ar gyfer teuluoedd, beicwyr newydd a beicwyr profiadol. Bydd traean o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar lwybrau di-draffig ac felly’n rhoi amwynder newydd a phwysig ar gyfer cerddwyr a phobl gydag anabledd.

Ar bob llwybr...

Byddwch yn gwrtais! Pan yn beicio parchwch eraill, boed hwy'n feicwyr eraill, yn gerddwyr, yn bobl mewn cadair olwyn, yn farchogwyr neu'n yrwyr, a diolchwch i’r rai sy'n ildio’r ffordd i chi.

Ar lwybrau a rennir...

Mae traean o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar lwybrau di-draffig, megis hen lwybrau rheilffordd. Maent wedi eu cynllunio i'w rhannu gan feicwyr a cherddwyr. Yn aml maent yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn ac weithiau ar gyfer marchogwyr. Dengys profiad yn y DU a thramor y gall lwybrau o'r fath fod o fudd i bawb ac y gallant gael eu rhannu'n hawdd ac yn ddiogel os byddwn yn parchu ein gilydd.

Pan yn beicio ar lwybrau a rennir:

  • ildiwch y ffordd i gerddwyr, gan adael digon o le iddynt
  • cadwch i'ch ochr chi o unrhyw linell sy'n rhannu'r llwybr
  • byddwch yn barod i arafu neu stopio os bydd angen
  • peidiwch â disgwyl beicio ar gyflymder uchel
  • byddwch yn ofalus ar gyffyrdd, troadau ac wrth fynedfeydd
  • cofiwch fod llawer o bobl yn drwm eu clyw neu â nam ar eu golwg - peidiwch â chymryd yn ganiataol eu bod yn gallu eich gweld a'ch clywed
  • cariwch gloch a defnyddiwch hi – peidiwch â pheri syndod i bobl
  • ildiwch y ffordd i ddefnyddwyr cadair olwyn a marchogwyr.

Ar ffyrdd...

Mae llawer o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar ffyrdd lle y mae traffig wedi ei dawelu neu ar isffyrdd drwy drefi a chefn gwlad.

Pan yn beicio ar ffyrdd:

  • dilynwch Reolau'r Ffordd Fawr bob amser
  • gwnewch yn siŵr y gellir eich gweld - mae'r rhan fwyaf o ddamweiniau i feicwyr yn digwydd ar gyffyrdd
  • gosodwch oleuadau ar eich beic a defnyddiwch hwy pan fydd gwelededd yn wael
  • ystyriwch wisgo helmed a dillad amlwg
  • cadwch eich beic yn addas ar gyfer y ffordd
  • peidiwch â beicio ar balmentydd oni bai bod hynny wedi ei ddynodi – mae’r palmentydd ar gyfer cerddwyr
  • defnyddiwch eich cloch – ni all bob cerddwr eich gweld.

Ac yng nghefn gwlad...

  • dilynwch y Cod Cefn Gwlad
  • parchwch weithgareddau rheoli tir, eraill megis ffermio neu goedwigaeth, ac ewch â'ch sbwriel adref
  • cadwch yr erydiad i’r lleiaf posibl os ydych oddi ar y ffordd
  • byddwch yn hunan-gynaliadwy - mewn ardaloedd pellennig gwnewch yn siŵr fod genych fwyd, offer atgyweirio, map a dillad glaw
  • ceisiwch feicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i ddechrau ac o ddiwedd eich taith
  • beiciwch o fewn eich gallu
  • cyfatebwch eich cyflymder i’r arwyneb ac i'ch gallu

Diolch am feicio!  Nid yw'r beic yn achosi llygredd nac yn cyfrannu at newid hinsawdd. Diolch am ddewis math amgylchedd gyfeillgar o drafnidiaeth.

Sustrans