Cwm Garw
Mae’r llwybr hamddenol hwn yn dechrau yn hafan dawel Tŷ a Pharc Gwledig Bryngarw sydd ag ardal chwarae plant a rhaglen haf llawn gweithgareddau. Erbyn hyn mae’r tŷ’n westy, canolfan gynadledda a lleoliad priodasau. Oddi yma ceir adran o hen reilffordd, sydd ar hyn o bryd yn cael ei hadnewyddu ac yng ngofal y gymdeithas gadwraeth leol - atyniad unigryw ar y llwybr hwn. Dros y degawd nesaf bwriad Rheilffordd Cwm Garw yw ail-ddechrau rhedeg locomotifau ager i gludo teithwyr yn ôl mewn amser ar lwybr sydd wedi ei enwi’n Llinell Cennin Pedr.
Hyfrydwch y daith hon yw bod arni ddigonedd o gyfle i aros am luniaeth. Mae caffi wedi ei leoli hanner ffordd ar hyd y llwybr ym Mhont-yr-hyl, ond i’r rheiny sydd am fynd oddi ar y llwybr arferol mae digonedd o lwybrau yn arwain i lanerchau bryniog glas Fforest Garw - hafan ar gyfer gwylwyr adar.
Wedi cyrraedd hen dref lofaol Pontycymer - y lleoliad ar gyfer y ffilm Very Annie Mary yn 2001 - mae’r llwybr yn mynd â chi ymlaen i dref Blaengarw, fflachbwynt yn Streic y Glowyr 1984. Ar un adeg roedd chwe phwll glo yng Nghwm Garw a nifer o gloddfeydd drifft, ac mae Neuadd y Gweithwyr 300 sedd ym Mlaengarw - sydd erbyn hyn yn theatr gerddorol - yn atgoffa rhywun o orffennol glofaol y dref. Mae’r prif lwybr yn gorffen yn y safle pwll glo adferedig yn y dref. O’r llwybr hwn ceir dolenni i Lwybr Cwm Ogwr a llwybrau i Ben-y-bont ar Ogwr. Mynydd Cynffig a’r Lôn Geltaidd.
Atyniadau naturiol:
- Fforest Garw
Atyniadau i ymwelwyr:
- Tŷ a Pharc Gwledig Bryngarw
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Garw Valley in a larger map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Cymoedd De Cymru
- Pellter:
5.5 milltir
- Dosbarthiad:
Hawdd
- Traffig:
Di-draffig
- Wyneb:
Tarmac a llwch
- Llwybr RhBC:
884
- Cychwyn:
Parc Gwledig Bryngarw
- Gorffen:
Blaengarw
- Mynediad:
Gorsafoedd hheilffordd yn Nhondu, Sarn a Phen-y-bont ar Ogwr
- Tywydd:
-
Iau
uchaf: 14°C isaf: 9°C
-
Gwener
uchaf: 14°C isaf: 11°C
-
Sadwrn
uchaf: 15°C isaf: 9°C
-
Sul
uchaf: 15°C isaf: 9°C
Dewis llwybr arall

