Llwybr Cwm Elan o'r Rhaeadr
Mae’r llwybr ysblennydd hwn yn dringo heibio i dair cronfa ddŵr yng Nghanolbarth hardd a mynyddig Cymru ac yn dilyn llwybr hen Reilffordd y Birmingham Coorporation, a adeiladwyd er mwyn cynorthwyo yn y gwaith o greu cronfeydd dŵr Elan. Adeiladwyd y rhain rhwng 1892 a 1904, ac yn ystod y cyfnod prysuraf cyflogwyd dros 5000 o ddynion. Crëwyd y cronfeydd i gyflenwi dŵr i Birmingham ac mae’r dŵr yn teithio 73 milltir mewn pibau i gyrraedd pen ei daith.
Cyfres o lynnoedd cul yw’r cronfeydd dŵr sy’n rhedeg o’r gogledd i’r de. Gallwch ddysgu mwy am waith adeiladu’r cronfeydd yn y Ganolfan Ymwelwyr (sydd hefyd â chaffi).
Mae’r daith yn dringo 165 troedfedd o Ganolfan Ymwelwyr Cwm Elan heibio i gronfeydd dŵr Caban Coch a’r Garreg Ddu gyda’u hargaeau gwych a thwr dŵr addurnol, nes cyrraedd pen uchaf Cronfa Ddŵr Penygarreg. Oddi yma mae’r llwybr yn mynd ar i lawr yn ôl i’r cychwyn. Pan fydd y cronfeydd yn llawn gallwch weld miliynau o alwyni o ddŵr yn rhaeadru dros furiau’r argae.
Mae’r twnnel ger tref Rhaeadr yn warchodfa natur ar gyfer ystlumod prin. Mae’r llwybr hefyd yng nghanol ardal y Barcud Coch, felly mae’n bosib y gwelwch yr adar gwych hyn â’u cynffonau fforchog amlwg yn hedfan yn yr aer thermal uwchben.
Atyniadau naturiol:
- Cronf eydd dŵr Cwm Elan
Atyniadau i ymwelwyr:
- Canolfan Ymwelwyr Cwm Ela
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Powys
- Pellter:
9 milltir un ffordd
- Amser sydd ei angen:
3-4 awr
- Dosbarthiad:
Cymedrol
- Traffig:
Di-draffig
- Wyneb:
Tarmac / Graean
- Llwybr RhBC:
Llwybr Cenedlaethol 81
- Cychwyn:
Ar ochr orllewinol Rhaeadr
- Gorffen:
Ar ben uchaf Cronfa Ddŵr Penygarreg
- Llogi beiciau:
Canolfan Beiciau Mynydd Clive Powell, Rhaeadr. Ffôn: 01597 811343
- Mynediad:
Gorsaf drên yn Llandrindod
- Mapiau a llysrynnau:
- Cysylltiadau Gyda:
Mae llwybr graean llydan ar hyd ochr Cronfa Ddŵr Claerwen i’r gorllewin o’r Rhaeadr.
- Tywydd:
-
Llun
uchaf: 15°C isaf: 10°C
-
Mawrth
uchaf: 16°C isaf: 7°C
-
Mercher
uchaf: 15°C isaf: 8°C
-
Iau
uchaf: 17°C isaf: 9°C
Dewis llwybr arall

