Dolgellau i Fachynlleth drwy Dywyn neu'r Ganolfan Technoleg Amgen

Gyda dewis o ddwy daith, sydd o’u cyfuno yn gwneud taith gylchol wych, mae’r adrannau hyn o Lôn Las Cymru yn mynd â chi drwy ganol Eryri, ac ar hyd adrannau o arfordir rhyfeddol Cymru.
O ddewis y daith arfordirol byddwch yn croesi’r bryniau arfordirol gyda golygfeydd trawiadol i’r gogledd ac allan i’r môr, cyn disgyn i Dywyn, cartref Rheilffordd Tal-y-llyn, cyn mynd allan i groesi’r bryniau unwaith eto i Fachynlleth.
Mae’r daith fewndirol yn fwy uniongyrchol ond yn cynnwys bwlch sy’n dringo dros 400m uwchlaw lefel y môr, cyn disgyn i hen bentrefi llechi Aberllefenni a Corris. Mae’r daith hefyd yn mynd heibio i’r Ganolfan Technoleg Amgen fyd-enwog.
Os ydych yn berson anturus iawn, beth am droi’r ddau ddewis yn un daith gylchol fawr.
I gael rhagor o wybodaeth gweler map beicio Lôn Las Cymru – Gogledd.
Atyniadau naturiol:
- Arfordir Môr Iwerddon
- Eryri
Atyniadau i ymwelwyr:
- Rheilffordd Tal-y-llyn
- Canolfan Technoleg Amgen
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Dolgellau to Machynlleth in a larger map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Canolbarth Cymru
- Pellter:
20 - 35 miltir
- Dosbarthiad:
- Traffig:
Ar ffyrdd tawel yn bennaf
- Wyneb:
Tarmac
- Llwybr RhBC:
8
- Cychwyn:
Dolgellau
- Gorffen:
Machynlleth
- Mynediad:
Gorsafoedd rheilffordd yn y Bermo, Tywyn a Machynlleth.
- Mapiau a llysrynnau:
-
Map Lôn Las Cymru GogleddNN8B £6.99
Arweinlyfr Lôn Las Cymru – £6.99
- Tywydd:
-
Iau
uchaf: 15°C isaf: 7°C
-
Gwener
uchaf: 15°C isaf: 8°C
-
Sadwrn
uchaf: 17°C isaf: 8°C
-
Sul
uchaf: 18°C isaf: 8°C
Dewis llwybr arall

