Nôl

Ceunant Clydach, i'r gorllewin o'r Fenni

Clydach Gorge, west of Abergavenny

Mae blynyddoedd o drafod a gwaith caled wedi galluogi llwybr sydd bron yn gyfan gwbl ddi-draffig i gael ei agor rhwng Llan-ffwyst, ychydig i’r de o’r Fenni, a Brynmawr gan basio’n uchel dros Geunant Clydach.

Mae’r llwybr, sy’n bennaf yn goediog, yn dringo’n raddol heibio i Gofilon, gan adael Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn bell islaw. Defnyddir un adran o lôn dawel na ellid fod wedi ei hosgoi cyn dringo’n ôl i fyny i lwybr yr hen reilffordd.

Mae llawer o adfeilion cloddio a chwarela gwych i’w gweld ar lwybr a fyddai wedi peri her anferth i’r peirianwyr rheilffordd. Gall beicwyr heini a phrofiadol ddefnyddio rhwydweithiau o lonydd tawel ond serth i gysylltu ymlaen i Amgueddfa Lofaol Pwll Mawr ac ymuno â llwybrau di-draffig drwy Flaenafon, Pont-y-pŵl a Chwmbrân i Gasnewydd.


Atyniadau naturiol:


  • Golygfeydd o Geunant Clydach

  • Coedwig lydanddail

Atyniadau i ymwelwyr:


  • Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu

Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans

Tagiau


Nôl i'r brig

Map o'r Llwybr


Sylwadau (1)

  • 21/09/09,  at  10:04 PM

    A brilliant route that does justice to engineering splendour of the former MT&A;railway line,( itself built over a former tramroad) especially over the viaduct and past the limeworks in the Clydach gorge.
    A minor frustration was the wooded north side often obscures views down into the valley below.
    Some of the links onto adjacent local roads are formidably steep although I was shamed by an elderly gentleman who seemed hardly out of breath as he steadily churned up hill

  • Page 1 of 1 pages

Please login or register to comment.

Nôl i'r brig

Manylion allweddol y llwybr

Rhanbarth/Ardal:

Cymoedd De Cymru

Pellter:

8 milltir

Amser sydd ei angen:

1.5 awr

Dosbarthiad:

Traffig:

Di-draffig gydag un adran fer ar lôn dawel

Wyneb:

Cymysg

Llwybr RhBC:

46

Cychwyn:

Llan-ffwyst, i'r de o'r Fenni

Gorffen:

Ar ochr ddwyreiniol Brynmawr, ar y gylchfan sydd ar gyffordd yr A465 a'r A4047

Llogi beiciau:

Bike Base, 16 Nevill Street, Y Fenni. Ffôn: 01873 855999 www.bikebasewales.com

Mynediad:

Gorsaf drên yn y Fenni

Mapiau a llysrynnau:








nn4bMap Lôn Geltaidd Dwyrain NN4B £6.99

ctguideArweinlyfr Lôn Geltaidd – £6.99
ctguideTaflen Lôn Geltaidd – Pdf am ddim

Cysylltiadau Gyda:

Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn Llan-ffwyst

Mae llwybr rheilffordd Blaenafon i Bont-y-pŵl ychydig i’r de


Tywydd:
Chance of Rain

Iau

uchaf: 15°C isaf: 7°C

Rain

Gwener

uchaf: 18°C isaf: 8°C

Mostly Sunny

Sadwrn

uchaf: 19°C isaf: 8°C

Cloudy

Sul

uchaf: 19°C isaf: 7°C


Dewis llwybr arall
Sustrans