Llwybr Cymunedol Pentre’r Eglwys Llantrisant i Tonteg

Llwybr Cymunedol Pentre’r Eglwys, a agorwyd yn ddiweddar, yw un o’r llwybrau di-draffig cyntaf i’w gwblhau fel rhan o ‘Rwydwaith Beicio’r Cymoedd’, estyniad 100 milltir o Rwydwaith Beicio Cenedlaethol newydd ar draws hen faes glo De Cymru.
O dafarn y Cross Inn yn Llantrisant, mae’r llwybr llawn golygfeydd hwn yn mynd i’r gogledd o Ffordd Osgoi Pentre’r Eglwys i gyrion Tonteg, gan roi cyfle gwych i ymwelwyr a chymudwyr fwynhau tirwedd gyfoethog y Cymoedd a’r amgylchedd gwledig.
Dysgwch am y doreth o fywyd gwyllt, yn cynnwys rhywogaeth brin o löynod byw, y gellir ei weld ar hyd y llwybr a chofiwch gadw llygad ar agor am y gwaith celf hardd - vent 6 troedfedd o Oes Victoria yn dangos delweddau o ddulliau trafnidiaeth yn y dyfodol, a ddyluniwyd gan blant o un o’r ysgolion cynradd lleol.
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Cymoedd De Cymru
- Pellter:
4 milltir
- Dosbarthiad:
Hawdd
- Traffig:
Di-draffig
- Wyneb:
Tarmac
- Cychwyn:
Llantrisant
- Gorffen:
Tonteg
- Mynediad:
Gorsafoedd Rheilfford Pontclun a Trefforest
- Tywydd:
-
Sadwrn
uchaf: 7°C isaf: 2°C
-
Sul
uchaf: 5°C isaf: 1°C
-
Llun
uchaf: 8°C isaf: 1°C
-
Mawrth
uchaf: 3°C isaf: -1°C
Dewis llwybr arall

