Nôl

Caer i Gei Connah

Chester to Connah’s Quay

Mae Caer yn dref hardd iawn yn llawn o adeiladau sy’n hanner pren. O amgylch y dref mae muriau canoloesol gyda rhannau ohonynt yn dyddio’n ôl i gyfnod y Sacsoniaid, a hyd yn oed y Rhufeiniaid. Gyferbyn â’r canol mae safle’r amffitheatr Rufeinig a’r canfyddiadau archeolegol Rhufeinig, a gellir gweld arddangosfa hanes lleol yn Amgueddfa Grosvenor.

Mae llwybr beicio ar hyd llwybr tynnu Camlas Undeb Swydd Amwythig sy’n cysylltu canol y dref i’r llwybr rheilffordd, taith agored hardd sy’n mynd â chi o ochr ogleddol Caer i dir âr cyfoethog Cilgwri, gyda chnydau tatws, India-corn a grawn.

Arferai llinell reilffordd Mickle Trafford i Dee Marsh gludo dur yn ôl a blaen o’r gwaith dur ar lannau afon Dyfrdwy ym Mhont Penarlâg. Yn y pellter gellir gweld Bryniau Clwyd. Pan gyrhaeddwch Bont Penarlâg efallai y byddwch am roi cynnig ar lwybr arall yn ôl i Gaer drwy ddilyn y llwybr ardderchog ar hyd Afon Dyfrdwy (Llwybr Rhanbarthol 89) yn ôl i ganol y dref.


Atyniadau naturiol:


  • Golygfeydd Bryniau Clwyd

  • Afon Dyfrdwy

Atyniadau i ymwelwyr:


  • Caer

Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans

Tagiau


Nôl i'r brig

Map o'r Llwybr


Sylwadau (0)

Please login or register to comment.

Nôl i'r brig

Manylion allweddol y llwybr

Rhanbarth/Ardal:

Gogledd-ddwyrain

Pellter:

7 milltir

Amser sydd ei angen:

1.5 awr

Dosbarthiad:

Hawdd

Traffig:

Di-draffig

Wyneb:

Cymysg

Llwybr RhBC:

Llwybr Cenedlaethol 5

Cychwyn:

Canolfan siopa Kingsway ar ochr ogledd ddwyrain Caer

Gorffen:

Pont Penarlâg, Cei Connah

Llogi beiciau:

Davies Bros Cycle Hire, 6 Cuppin Street, Caer. Ffôn: 01244 319204

Mapiau a llysrynnau:




ctguideTaflen Caer – Cei Connah – PDF am ddim

Arweinlyfrau a chyhoeddiadau:
Gellir cael Map Beicio Caer o Ganolfan Groeso Caer. Ffôn: 01244 402111
Cysylltiadau Gyda:

Mae’n bosibl gwneud hon yn daith gylchol drwy ddychwelyd i Gaer ar hyd llwybr beicio Afon Dyfrdwy ac yna ymuno â Chamlas Undeb Swydd Amwythig ar gornel gogledd orllewinol muriau’r ddinas (Tower Road / South View Road). Mae hwn yn arwain yn ôl i’r llwybr rheilffordd.

Tywydd:
Chance of Rain

Iau

uchaf: 15°C isaf: 7°C

Chance of Rain

Gwener

uchaf: 14°C isaf: 9°C

Chance of Rain

Sadwrn

uchaf: 16°C isaf: 8°C

Chance of Rain

Sul

uchaf: 15°C isaf: 8°C


Dewis llwybr arall
Sustrans