Nôl

Cefn Cribwr Pen-y-bont ar Ogwr

image

Mae’r adran hon o’r Lôn Geltaidd o Dondu (i’r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr) tua’r gorllewin i Warchodfa Natur Frogpond Wood yn y Pîl yn defnyddio llwyfannau pren anarferol sy’n nadreddu ei ffordd drwy Barc Natur Parc Slip er mwn eich cadw oddi ar y tir meddal oddi tanodd.

Mae’r Parc Natur wedi cofnodi 28 rhywogaeth o loÿnnod byw, bydd adar hirgoes prin yn mynd trwyddo yn ystod y tymor mudo ac mae nifer o rywogaethau prin o fursennod a gwas y neidr yn bridio yma.

Mae Henebion Cofrestredig ar bob pen o’r llwybr: Gwaith Haearn Cefn Cribwr ger Y Pîl a Gwaith Haearn Tondu ger Tondu.

Mae’r llwybr yn bennaf yn goediog gydag ambell nodwedd ar hyd y ffordd i’ch atgoffa o’r gorffennol diwydiannol.

Gall y llwybr gael ei gysylltu’n hawdd yn ei ben dwyreiniol gyda llwybr Cwm Ogwr gan fynd â chi i Nant-y-moel.


Atyniadau naturiol:


  • Gwarchodfa Natur Frogpond Wood

Atyniadau i ymwelwyr:


  • Gwaith Haearn Cefn Cribwr, Y Pîl

  • Gwaith Haearn Tondu, Tondu

Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans

Tagiau


Nôl i'r brig

Map o'r Llwybr


Sylwadau (0)

Please login or register to comment.

Nôl i'r brig

Manylion allweddol y llwybr

Rhanbarth/Ardal:

De-ddwyrain Cymru

Pellter:

4.5 milltir

Amser sydd ei angen:

0.5 awr

Dosbarthiad:

Hawdd

Traffig:

Di-draffig

Wyneb:

Cymysg

Llwybr RhBC:

Llwybr Cenedlaethol 4

Cychwyn:

Tondu, i'r gogledd orllewin o Ben-y-bont ar Ogwr

Gorffen:

Y Pîl

Llogi beiciau:

Dim ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mynediad:

Gorsafoedd trên yn Nhondu a'r Pîl

Mapiau a llysrynnau:








nn4bMap Lôn Geltaidd Dwyrain NN4B £6.99

ctguideArweinlyfr Lôn Geltaidd – £6.99
ctguideTaflen Lôn Geltaidd – Pdf am ddim

Cysylltiadau Gyda:

Llwybr Cwm Ogwr i Nant-y-moel

Tywydd:
Chance of Rain

Iau

uchaf: 14°C isaf: 9°C

Chance of Rain

Gwener

uchaf: 14°C isaf: 11°C

Chance of Rain

Sadwrn

uchaf: 15°C isaf: 9°C

Chance of Rain

Sul

uchaf: 15°C isaf: 9°C


Dewis llwybr arall
Sustrans