Llwybr Beicio Aberteifi i Gilgerran
Taith fer yw hon yng nghanol cefn gwlad Ceredigion sy’n cychwyn yn nhref arfordirol hanesyddol Aberteifi ac yn rhedeg ar hyd moryd llanw Afon Teifi drwy welyau cyrs eang i bentref Cilgerran gyda’i gastell, ei dafarndai a’i siop de.
Mae’r daith yn cychwyn ychydig i’r de o’r hen bont dros yr afon yn Aberteifi. Mae’r llwybr yn rhedeg ar hyd y sarn a adeiladwyd o wastraff y ffwrneisi ym 1885 er mwyn cludo rheilffordd Hendy-gwyn ac Aberteifi dros gorstir moryd yr Afon Teifi. Ar ôl adeiladu’r sarn newidiodd natur y corsydd gan fod y dŵr hallt a arferai orlifo i mewn ddwywaith y dydd yn cael ei ddal yn ôl.
Mae’r llwybr yn rhedeg drwy un o’r ardaloedd mwyaf o Gyrs Cyffredin yng Nghymru. Mae Bras y Gors yn adar preswyl ac yn y gwanwyn bydd Telor y Dŵr a Thelor y Gors yn cyrraedd o Affrica.
O ran Castell Cilgerran, yma y gwelodd y Normaniaid botensial y lleoliad am y tro cyntaf ac adeiladu castell cylchfur cynnar. Ond mae’r castell carreg mawreddog a saif yno heddiw yn waith William Marshal, Iarll Penfro ar ddechrau’r drydedd ganrif ar ddeg.
Atyniadau naturiol:
- Gwelyau cyrs
- adar gwyllt
Atyniadau i ymwelwyr:
- Adeiladau cain ar hen gei Aberteifi
- Canolfan Bywyd Gwyllt
- Castell Cilgerran
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Canolbarth Cymru
- Pellter:
3 milltir
- Amser sydd ei angen:
0.5 awr
- Dosbarthiad:
Hawdd
- Traffig:
Di-draffig gydag un darn byr ar lôn dawel i mewn i Gilgerran
- Wyneb:
Cymysg
- Llwybr RhBC:
Llwybr Cenedlaethol 82
- Cychwyn:
Gyferbyn â'r Eagle Inn i’r de o’r hen bont yn Aberteifi
- Gorffen:
Cilgerran
- Llogi beiciau:
New Image Bicycles, Aberteifi. Ffôn: 01239 621275
- Mynediad:
Dim gorsaf drên gerllaw (mae Abergwaun 17 milltir i'r de orllewin)
- Mapiau a llysrynnau:
-
Lôn Cambria & Lôn Teifi NN81 £6.99
Arweinlyfr Lôn Cambria & Lôn Teifi – £6.99
Taflen Cardi Bach – Pdf am ddim
- Cysylltiadau Gyda:
Y llwybr di-draffig agosaf i’r de yw Hwlffordd (Llwybr Brunel)
- Tywydd:
-
Sadwrn
uchaf: 9°C isaf: 2°C
-
Sul
uchaf: 8°C isaf: 4°C
-
Llun
uchaf: 9°C isaf: 2°C
-
Mawrth
uchaf: 5°C isaf: -3°C
Dewis llwybr arall

