Caerffili i Fachen
Mae’r adran hon o RhBC 4 Caerffili wedi ei huwchraddio nifer o weithiau dros y blynyddoedd diwethaf ac erbyn hyn mae hi bron yn gwbl ddi-draffig.
O ganol Caerffili mae RhBC 4 yn mynd i gyfeiriad y dwyrain ar hyd stryd breswyl dawel cyn mynd ar adran o lwybr di-draffig sy’n mynd drwy ardal parc llinellol a heibio i ddwy ysgol.
Mae’r daith yn rhedeg ochr yn ochr â ffordd cyn ymuno â hen ffordd gefn, ac yna â llwybr glan yr afon o amgylch stad ddiwydiannol Bedwas. Diolch i’r ardal llain werdd fawr a adawyd rhwng y stad ddiwydiannol a’r afon, mae’r adran hon yn dawel iawn ac mae’n amgylchedd glan afon hyfryd a di-draffig.
Yn olaf mae’r llwybr yn croesi’r A468 i ymuno â llwybr beicio Bedwas i Fachen sy’n defnyddio adran o hen reilffordd.
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Caerphilly to Machen in a larger map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Cymoedd De Cymru
- Pellter:
5 milltir
- Dosbarthiad:
Hawdd
- Traffig:
Di-draffig yn bennaf
- Wyneb:
Cymysg
- Llwybr RhBC:
4
- Cychwyn:
Caerffili
- Gorffen:
Machen
- Mynediad:
Gorsaf reilffordd Caerffili
- Mapiau a llysrynnau:
-
Map Lôn Geltaidd Dwyrain NN4B £6.99
Arweinlyfr Lôn Geltaidd – £6.99
Taflen Lôn Geltaidd – Pdf am ddim
- Tywydd:
-
Iau
uchaf: 17°C isaf: 8°C
-
Gwener
uchaf: 18°C isaf: 9°C
-
Sadwrn
uchaf: 20°C isaf: 8°C
-
Sul
uchaf: 17°C isaf: 8°C
Dewis llwybr arall

