Llwybr Brunel o Neyland i Hwlffordd

Mae’r daith hon yn ddringfa graddol gan adael y casgliad o longau lliwgar ym Marina Neyland (i’r gogledd o Benfro) i fyny drwy goedwig lydanddail hyfryd Gwarchodfa Natur Westfield Pill ar hyd moryd Daugleddau i Johnston.
Wedi hyn mae’r llwybr yn defnyddio llwybr ymdonnog sydd newydd ei adeiladu ac sy’n rhedeg yn gyfochrog â’r rheilffordd i Bont Myrddin ar gyrion Hwlffordd.
Mae’r llwybr y cychwyn ar linell Rheilffordd y Great Western, a adeiladwyd rhwng 1852-6 o dan gyfarwyddyd Isambard Kingdom Brunel, y peiriannwr enwocaf o Oes Victoria.
Wedi agor y llinell fel terfynfa Rheilffordd y Great Western, datblygodd Neyland gan ddenu llongau teithwyr yn wreiddiol ar eu ffordd i dde Iwerddon, er i’r fasnach yma orffen ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Parhaodd y pentref yn borthladd pysgota prysur hyd nes canol yr ugeinfed ganrif.
Agorwyd Pont Cleddau, cysylltiad hollbwysig rhwng glan ogleddol a deheuol yr afon, ym 1975, gan gymryd lle’r fferi a arferai redeg rhwng Neyland a Phenrhyn Hobb.
Atyniadau naturiol:
- Gwarchodfa Natur Westfield Pill
- Moryd Afon Cleddau
Atyniadau i ymwelwyr:
- Marina Neyland
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
De-Orllewin Cymru
- Pellter:
10 milltir
- Amser sydd ei angen:
1.5 awr
- Dosbarthiad:
Hawdd
- Traffig:
Di-draffig gydag ychydig o ffyrdd bychan i'w croesi
- Wyneb:
Cymysg
- Llwybr RhBC:
Llwybr Cenedlaethol 4
- Cychwyn:
Cei Brunel, Marina Neyland, ger Penfro
- Gorffen:
Pont Myrddin (Heol Ffynnon Caradog), Hwlffordd
- Llogi beiciau:
Mike’s Bikes, Hwlffordd. Ffôn: 01437 760068
- Mynediad:
Gorsafoedd trên yn Johnston, Doc Penfro, Hwlffordd
- Mapiau a llysrynnau:
-
Map Lôn Geltaidd Gorllewin NN4C £6.99
Arweinlyfr Lôn Geltaidd – £6.99
Taflen Llwybr Brunel – PDF am ddim
Taflen Lôn Geltaidd – Pdf am ddim
- Tywydd:
-
Iau
uchaf: 14°C isaf: 8°C
-
Gwener
uchaf: 14°C isaf: 9°C
-
Sadwrn
uchaf: 13°C isaf: 9°C
-
Sul
uchaf: 13°C isaf: 7°C
Dewis llwybr arall

