Nôl

Bargoed - Fochriw drwy Barc Cwm Darran

image

Gan ddechrau yn Nheras Bryste ym Margoed, mae’r llwybr beicio hwn yn mynd ar hyd llinell reilffordd segur a dan nifer o bontydd hanesyddol a ddefnyddiwyd i gludo glo o byllau gerllaw. Yn ei anterth roedd Pwll Glo Bargoed yn dorrwr record. Mewn un shifft 10 awr ym mis Rhagfyr 1908 cododd glowyr gweithgar record byd o lo - 4,562 tunnell.

Ymhlith harddwch naturiol eithriadol y llwybr hwn ceir tystiolaeth o orffennol diwydiannol gwych yr ardal - mae cyn domennydd slag y Groes-faen yn dal yn amlwg yn y dirwedd. Yn y diwedd dewch ar draws Deri, tref fechan ar gyrion Parc Cwm Darran sydd heb ei ddifetha ddwy filltir i’r gogledd o Fargoed. Mae gan y Parc ganolfan ymwelwyr sydd ar agor yn yr haf. Wedi’i chodi ar gyn bwll glo Ogilvie mae’n cynnwys un o Stordai Powdr olaf Cymru, caffi ynghyd â chanolfan ddysgu ryngweithiol sy’n adrodd hanes gorffennol diwydiannol gwych yr ardal.

Mae’r parc hefyd yn fynedfa i hafanau bywyd gwyllt Dolydd Cwmllydrew, tair dôl a choedwig gysgodol o goed deri. Mae’r Gnocell Werdd wedi ei gweld yn y warchodfa natur hon ynghyd â nythod Morgrug Melyn y Ddôl. Mae’r dolydd hefyd yn gartref i loÿnnod byw prin.

Mae adran newydd sbon o’r llwybr yn mynd ymlaen am ychydig dros filltir, heibio i gaeau a cheffylau ynddynt a fforestydd cysglyd cyn cyrraedd cymuned Fochriw - tref â hanes glofaol anferth, ac a gysylltir hefyd â chwedlau Arthuraidd.


Atyniadau naturiol:

Atyniadau i ymwelwyr:


  • Dolydd Cwmllydrew

Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans

Tagiau


Nôl i'r brig

Map o'r Llwybr


View Bargoed to Parc Cwm Darran in a larger map

Sylwadau (0)

Please login or register to comment.

Nôl i'r brig

Manylion allweddol y llwybr

Rhanbarth/Ardal:

Cymoedd y De Orllewin

Pellter:

5 milltir

Dosbarthiad:

Hawdd

Traffig:

Di-draffig

Wyneb:

Cymysg

Cychwyn:

Bargoed

Gorffen:

Fochriw

Tywydd:
Chance of Rain

Iau

uchaf: 17°C isaf: 8°C

Chance of Rain

Gwener

uchaf: 18°C isaf: 9°C

Chance of Rain

Sadwrn

uchaf: 20°C isaf: 8°C

Chance of Rain

Sul

uchaf: 17°C isaf: 8°C


Dewis llwybr arall
Sustrans