Aberystwyth i Lanilar (Adran o Lwybr Ystwyth)
Mae’r Llwybr yn dechrau’n swyddogol yn y maes parcio drws nesaf i’r cae pêl-droed; fodd bynnag, mae’n hawdd ei gyrchu o unrhyw le yn Aberystwyth. Mae’r daith yn croesi’r bont droed ar draws afon Rheidol, yna drwy ardal o dai cyn croesi’r A487 brysur.
Yna bydd y daith yn dringo i fyny inclein byr a serth i ben Felin-y-Môr lle ceir golygfeydd da o’r arfordir. Gan ddilyn llwybr yr hen lein rheilffordd am tua 2 filltir i Lanfarian mae’r llwybr yn raddol gydag Afon Ystwyth ar y llaw dde.
Oddi yma mae’r daith yn mynd i mewn i goedwig, ac yma ceir ardal bicnic fechan gyda mainc ac arwyddion ar gyfer llwybrau cerdded drwy’r goedwig. Mae’r daith yn ymdonni am bellter byr cyn croesi pont dros Afon Ystwyth ac ailymuno â llwybr yr hen reilffordd am tua 2 filltir arall i mewn i Lanilar.
Ceir siopau yn Llanfarian a Llanilar, lle ceir hefyd dafarn fach.
Gall y daith gael ei ymestyn ymhellach ar hyd Llwybr Ystwyth. Gweler yr adrannau Llanilar i Abermagwr a Gwarchodfa Natur Cors Caron.
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Aberystwyth to Llanilar in a larger map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Canolbarth Cymru
- Pellter:
6.5 milltir
- Dosbarthiad:
Hawdd
- Traffig:
Digonedd yn ddi-draffig, ond rhai isffyrdd
- Wyneb:
Cymysg
- Llwybr RhBC:
82
- Cychwyn:
Aberystwyth
- Gorffen:
Llanilar
- Mynediad:
Gorsaf reilffordd yn Aberystwyth
- Mapiau a llysrynnau:
-
Lôn Cambria & Lôn Teifi NN81 £6.99
Arweinlyfr Lôn Cambria & Lôn Teifi – £6.99
Taflen Llwybr Ystwyth – PDF am ddim
- Tywydd:
-
Iau
uchaf: 15°C isaf: 7°C
-
Gwener
uchaf: 15°C isaf: 8°C
-
Sadwrn
uchaf: 17°C isaf: 8°C
-
Sul
uchaf: 18°C isaf: 8°C
Dewis llwybr arall

