Nôl

Llwybr Beicio Aberbargoed i Dredegar Newydd

image

Gan redeg am tua 2 cilomedr o Aberbargoed i’r gogledd tuag at Dredegar Newydd, mae’r llwybr hwn yn rhan o rwydwaith sy’n datblygu i redeg holl hyd Cwm Rhymni.

Yn union i’r de mae Parc Coetir Bargoed, sydd ag ystod o lwybrau mynediad iddo. Mae’r llwybr yn rhedeg ar hyd rheilffordd segur yn rhan gulaf Cwm Rhymni ac mae’n bennaf yn goediog. Pan geir bylchau yn y coedwigoedd ceir golygfeydd ardderchog o’r dirwedd amgylchynol a’r afon islaw.

Mae nifer o nodweddion hanesyddol diddorol i’w gweld ymhlith y coed ar hyd y llwybr hwn a fydd, yn y pen draw, yn clymu i mewn llwybr presennol sy’n ymestyn ar hyn o bryd rhwng Teras Powell drwy safle Pwll Glo Mclaren sydd wedi’i adfer ac i mewn i Abertyswg. Mae’r daith hefyd yn cysylltu ag Amgueddfa Tŷ Weindio Pwll Glo Elliot sydd ag injan weindio sy’n dal i weithio.


Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans

Tagiau


Nôl i'r brig

Map o'r Llwybr


View Aberbargoed to New Tradegar in a larger map

Sylwadau (0)

Please login or register to comment.

Nôl i'r brig

Manylion allweddol y llwybr

Rhanbarth/Ardal:

Cymoedd De Cymru

Pellter:

1.5 milltir

Dosbarthiad:

Hawdd

Traffig:

Di-draffig

Wyneb:

Cymysg

Cychwyn:

Aberbargoed

Gorffen:

Dredegar Newydd

Mynediad:

Gorsaf reilffordd Aberbargoed

Tywydd:
Chance of Rain

Sadwrn

uchaf: 7°C isaf: 2°C

Partly Sunny

Sul

uchaf: 5°C isaf: 1°C

Fog

Llun

uchaf: 8°C isaf: 1°C

Fog

Mawrth

uchaf: 3°C isaf: -1°C


Dewis llwybr arall
Sustrans