Llwybr Beicio Cwm Aber
.jpg)
Mae’r llwybr yn dechrau yng Nghaerffili, tref sy’n enwog am ei chastell mawreddog â’r tŵr cam ac am y caws sy’n dwyn ei henw. Castell Caerffili yw’r ail fwyaf yn y DU, gyda dim ond Windsor yn rhagori arno.
O hwrli-bwrli bywyd y dref, mae’r llwybr hwn yn eich cludo i feysydd glas tawel a choedwigoedd sy’n garped o glychau’r gog â safleoedd bywyd gwyllt sydd wedi eu diogelu. Lleoliad perffaith ar gyfer picnic ac mae’n anodd dychmygu bod yr ardal hon unwaith yn ganolbwynt cynhyrchu glo trwm.
Mae’r llwybr di-draffig hwn sy’n rhedeg ar hyd y B4263 yn nadreddu ymlaen i Abertridwr - un o ddwy dref dawel sy’n nythu yng Nghwm Aber ac sy’n gorlifo â hanes diwydiannol. Ym Mharc Treftadaeth Abertridwr ceir gweddillion hen bwll glo’r Windsor sy’n atgof o gost ddynol ei anferthedd diwydiannol. Dim ond pedair blynedd wedi i’r pwll agor ym 1898 bu farw chwe dyn wedi iddynt foddi mewn 25 troedfedd o ddŵr. Ond mae safle un o drychinebau glofaol gwaethaf Prydain i ddod ar y llwybr hwn. Yn safle Senghennydd Gwaith Glo Universal collodd 439 o ddynion a bechgyn eu bywydau wedi i ffrwydriaid ei chwalu ym 1913. Mae amgueddfa a chofeb i goffau hyn a thrychinebau eraill yn y pentref. Mae’n werth beicio neu gerdded y llwybr hwn i gyd-fynd ag oriau agor Canolfan Dreftadaeth ac Amgueddfa Cwm Aber yng Nghanolfan Gymunedol Senghennydd.
Atyniadau i ymwelwyr:
- Castell Caerffili
- Canolfan Dreftadaeth ac Amgueddfa Cwm Aber
Cynigwyd y llwybr gan: Sustrans
Tagiau
Map o'r Llwybr
View Aber Valley Cycle Route in a larger map
Sylwadau (0)
Manylion allweddol y llwybr
- Rhanbarth/Ardal:
Cymoedd De Cymru
- Pellter:
2.5 milltir
- Dosbarthiad:
Hawdd
- Traffig:
Di-draffig
- Wyneb:
Cymysg
- Llwybr RhBC:
475
- Cychwyn:
Caerffili
- Gorffen:
Senghennydd
- Mynediad:
Gorsaf reilffordd yng Nghaerffili
- Tywydd:
-
Iau
uchaf: 17°C isaf: 8°C
-
Gwener
uchaf: 18°C isaf: 9°C
-
Sadwrn
uchaf: 20°C isaf: 8°C
-
Sul
uchaf: 17°C isaf: 8°C
Dewis llwybr arall

